Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 24

24
Dameg y Crochan
1Ar y degfed dydd o'r degfed mis yn y nawfed flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, gwna gofnod o enw'r dydd hwn, ie, yr union ddydd hwn, oherwydd heddiw y gosododd brenin Babilon warchae ar Jerwsalem. 3Llefara ddameg wrth y tŷ gwrthryfelgar hwn, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Gosod y crochan ar y tân,
ei osod a rhoi dŵr ynddo.
4Casgl ddarnau iddo—
y darnau dewisol, y goes a'r ysgwydd;
llanw ef â'r gorau o'r esgyrn,
5a chymer dy ddewis o'r praidd.
Gosod y coed#24:5 Tebygol. Cymh. adn. 10. Hebraeg, yr esgyrn. dano,
cod ef i'r berw,
a berwi'r esgyrn ynddo.
6“ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd, y crochan y mae rhwd arno, rhwd nad â allan ohono! Gwagiwch ef bob yn ddarn, heb fwrw coelbren am yr un ohonynt. 7Yr oedd y gwaed yng nghanol y ddinas wedi ei dywallt ar y graig noeth, ac nid ar y ddaear i'r llwch ei guddio. 8Er mwyn ennyn llid a chodi dialedd, rhois innau ei gwaed ar graig noeth fel na ellir ei guddio.
9“ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd! Gwnaf fi bwll tân mawr. 10Gosod dithau ddigon o goed, cynnau'r tân, coginia'r cig, cymysga'r perlysiau, a llosger yr esgyrn. 11Yna gosod y crochan yn wag ar y tanwydd nes iddo boethi ac i'w bres gochi, er mwyn toddi'r amhuredd a difa'r rhwd. 12Yn ofer y blinais#24:12 Tebygol. Hebraeg yn aneglur.; nid â'r rhwd trwchus allan ohono hyd yn oed trwy dân. 13Dy amhuredd di yw anlladrwydd; oherwydd imi geisio dy lanhau, ac na ddoit yn lân o'th amhuredd, ni fyddi'n lân eto nes i'm llid yn dy erbyn dawelu. 14Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; daeth yn amser imi weithredu. Ni fyddaf yn ymatal, nac yn tosturio nac yn trugarhau. Fe'th fernir yn ôl dy ffyrdd a'th weithredoedd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”
Marw Gwraig Eseciel
15Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 16“Fab dyn, ag un trawiad yr wyf am gymryd oddi wrthyt yr un fwyaf dymunol yn dy olwg, ond nid wyt i alaru nac wylo na cholli dagrau. 17Ochneidia'n ddistaw, ond paid â galaru am y marw. Cadw orchudd am dy ben a rho sandalau am dy draed; paid â gorchuddio dy enau na bwyta bwyd galar#24:17 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, dynion..” 18Yr oeddwn yn siarad â'r bobl yn y bore, a chyda'r nos bu farw fy ngwraig; bore trannoeth gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi. 19Yna dywedodd y bobl wrthyf, “Oni ddywedi beth sydd a wnelo'r pethau hyn a wnei â ni?” 20Yna dywedais wrthynt, “Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 21‘Dywed wrth dŷ Israel, “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn mynd i halogi fy nghysegr, yr hwn yr wyt yn ymfalchïo yn ei gadernid, ac sydd mor ddymunol a hoff yn dy olwg. Bydd y meibion a'r merched a adawyd yn syrthio trwy'r cleddyf. 22Fe wnewch chwi fel y gwneuthum i; ni fyddwch yn gorchuddio eich genau nac yn bwyta bwyd galar#24:22 Cymh. adn. 17. Hebraeg, dynion.. 23Byddwch yn cadw gorchudd am eich pennau a sandalau am eich traed, heb alaru nac wylo. Ond byddwch yn dihoeni oherwydd eich camweddau ac yn ochneidio wrth eich gilydd. 24Bydd Eseciel yn arwydd i chwi, ac fe wnewch fel y gwnaeth ef; pan ddigwydd hyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.”
25“ ‘Ac yn awr, fab dyn, ar y dydd pan gymeraf ymaith y gaer yr oeddent yn ymfalchïo yn ei gogoniant ac a oedd mor ddymunol a hoff yn eu golwg, a phan gymeraf eu meibion a'u merched, 26ar y dydd hwnnw fe ddaw atat ffoadur i ddweud y newydd. 27Y diwrnod hwnnw fe agorir dy enau; fe siaredi â'r ffoadur ac ni fyddi'n fud mwyach. Byddi'n arwydd iddynt, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Dewis Presennol:

Eseciel 24: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda