Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 12

12
Y Proffwyd a'r Gaethglud
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, yr wyt yn byw yng nghanol tylwyth gwrthryfelgar; y mae ganddynt lygaid i weld, ond ni welant, a chlustiau i glywed, ond ni chlywant, am eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar. 3Felly, fab dyn, gwna'n barod dy baciau ar gyfer caethglud, ac ymfuda liw dydd yn eu gŵydd; a phan ymfudi o'th gartref yn eu gŵydd i le arall, efallai y deallant eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar. 4Dos â'th baciau allan, fel paciau caethglud, liw dydd yn eu gŵydd, a dos dithau allan yn eu gŵydd gyda'r nos, yn union fel y rhai sy'n mynd i gaethglud. 5Yn eu gŵydd cloddia drwy'r mur, a dos#12:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, dwg. allan drwyddo. 6Yn eu gŵydd cod dy baciau ar dy ysgwydd a mynd â hwy allan yn y gwyll; gorchuddia dy wyneb rhag iti weld y tir, oherwydd gosodais di'n arwydd i dŷ Israel.” 7Gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi. Liw dydd euthum â'm paciau allan, fel paciau caethglud, a liw nos cloddiais trwy'r mur â'm dwylo, a mynd â hwy allan yn y gwyll a'u cario ar fy ysgwydd yn eu gŵydd.
8Daeth gair yr ARGLWYDD ataf yn y bore a dweud, 9“Fab dyn, oni ofynnodd Israel, y tylwyth gwrthryfelgar, iti, ‘Beth wyt ti'n ei wneud?’ 10Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y mae a wnelo'r baich hwn â'r tywysog yn Jerwsalem, ac y mae holl dylwyth Israel yn ei chanol.’ 11Dywed, ‘Yr wyf fi'n arwydd i chwi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy; ânt i gaethiwed i'r gaethglud.’ 12Bydd y tywysog sydd yn eu plith yn codi ei baciau ar ei ysgwydd yn y gwyll ac yn mynd allan; cloddir trwy'r mur, iddo fynd#12:12 Felly Fersiynau. Hebraeg, ddwyn. allan trwyddo, a bydd yn gorchuddio'i wyneb rhag iddo weld y tir â'i lygaid. 13Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon, gwlad y Caldeaid, ond ni fydd yn ei gweld, ac yno y bydd farw. 14A byddaf yn gwasgaru i'r pedwar gwynt yr holl rai sydd o'i amgylch, ei gynorthwywyr a'i luoedd, ac yn eu hymlid â chleddyf noeth. 15Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan fyddaf yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd. 16Ond byddaf yn arbed ychydig ohonynt rhag y cleddyf, a rhag newyn a haint, er mwyn iddynt gydnabod eu ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd lle'r ânt; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.”
17Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 18“Fab dyn, bwyta dy fwyd gan grynu, ac yfed dy ddiod mewn dychryn a phryder. 19Yna dywed wrth bobl y wlad, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am y rhai sy'n byw yn Jerwsalem ac yng ngwlad Israel: Byddant yn bwyta'u bwyd mewn pryder ac yn yfed eu diod mewn anobaith, oherwydd fe ddinoethir eu gwlad o bopeth sydd ynddi o achos trais yr holl rai sy'n byw ynddi. 20Difethir y dinasoedd sydd wedi eu cyfanheddu, a bydd y wlad yn anrhaith. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
Neges trwy Ddihareb
21Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 22“Fab dyn, beth yw'r ddihareb hon sydd gennych am wlad Israel, ‘Y mae'r dyddiau'n mynd heibio, a phob gweledigaeth yn pallu’? 23Am hynny, dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhoddaf ddiwedd ar y ddihareb hon, ac ni ddefnyddiant hi mwyach yn Israel.’ Dywed wrthynt, ‘Y mae'r dyddiau'n agosáu pan gyflawnir#12:23 Cymh. Syrieg. Hebraeg, gair. pob gweledigaeth.’ 24Oherwydd ni fydd eto weledigaeth dwyllodrus na dewiniaeth wenieithus ymysg tylwyth Israel. 25Ond byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn llefaru yr hyn a ddymunaf, ac fe'i cyflawnir heb ragor o oedi. Yn eich dyddiau chwi, dylwyth gwrthryfelgar, byddaf yn cyflawni'r hyn a lefaraf,” medd yr Arglwydd DDUW.
26Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 27“Fab dyn, y mae tylwyth Israel yn dweud, ‘Ar gyfer y dyfodol pell y mae'r weledigaeth a gafodd, ac am amseroedd i ddod y mae'n proffwydo.’ 28Felly dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid oedir fy ngeiriau rhagor; cyflawnir yr hyn a lefaraf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Dewis Presennol:

Eseciel 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda