Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 8

8
Llyffaint
1 # 8:1 Hebraeg, 7:26. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses: “Dos at Pharo a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd er mwyn iddynt fy addoli; 2os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn taro dy holl dir â phla o lyffaint. 3Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th dŷ ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino. 4Bydd y llyffaint yn dringo drosot ti a thros dy bobl a'th weision i gyd.’ ”
5Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron, ‘Estyn dy law a'th wialen dros y ffrydiau, yr afonydd a'r llynnoedd, a gwna i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.’ ” 6Felly estynnodd Aaron ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dringodd y llyffaint i fyny nes gorchuddio'r tir. 7Ond trwy eu gallu cyfrin yr oedd y swynwyr hefyd yn medru gwneud i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.
8Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud, “Gweddïwch ar i'r ARGLWYDD gymryd y llyffaint ymaith oddi wrthyf fi a'm pobl, ac fe ryddhaf finnau eich pobl er mwyn iddynt aberthu i'r ARGLWYDD.” 9Dywedodd Moses wrth Pharo, “Gad imi wybod pryd yr wyf i weddïo drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig.” Meddai yntau, “Yfory.” 10Dywedodd Moses, “Fel y mynni di; cei wybod wedyn nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein Duw ni. 11Bydd y llyffaint yn ymadael â thi a'th dai, ac â'th weision a'th bobl, ac ni cheir hwy yn unman ond yn y Neil.” 12Yna aeth Moses ac Aaron allan oddi wrth Pharo, a galwodd Moses ar yr ARGLWYDD ynglŷn â'r llyffaint a ddygodd ar Pharo. 13Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a bu farw'r llyffaint yn y tai a'r ffermydd a'r meysydd. 14Yna casglwyd hwy ynghyd yn bentyrrau, nes bod y wlad yn drewi. 15Pan welodd Pharo ei fod wedi cael ymwared ohonynt, caledodd ei galon a gwrthododd wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Llau
16Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron, ‘Estyn dy wialen a tharo llwch y ddaear, ac fe dry'n llau trwy holl wlad yr Aifft.’ ” 17Gwnaethant hynny; estynnodd Aaron ei law allan, a tharo llwch y ddaear â'i wialen, a throes y llwch yn llau ar ddyn ac anifail; trodd holl lwch y ddaear yn llau trwy wlad yr Aifft i gyd. 18Ceisiodd y swynwyr hefyd ddwyn llau allan trwy eu gallu cyfrin, ond nid oeddent yn medru. Yr oedd y llau ar ddyn ac anifail. 19Dywedodd y swynwyr wrth Pharo, “Trwy fys Duw y digwyddodd hyn.” Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Pryfed
20Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cod yn gynnar yn y bore i gyfarfod â Pharo wrth iddo fynd tua'r afon, a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli; 21oherwydd, os gwrthodi eu rhyddhau, byddaf yn anfon haid o bryfed arnat ti, dy weision, dy bobl a'th dai. Bydd tai'r Eifftiaid a'r tir danynt yn orlawn o bryfed. 22Ond ar y dydd hwnnw byddaf yn neilltuo gwlad Gosen, lle mae fy mhobl yn byw, ac ni fydd haid o bryfed yno; felly, byddi'n gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yma yn y wlad. 23Gan hynny, byddaf yn gwahaniaethu#8:23 Felly Fersiynau. Hebraeg, gwneud gwaredigaeth. rhwng fy mhobl i a'th bobl di. Bydd yr arwydd hwn yn ymddangos yfory.’ ”
24Gwnaeth yr ARGLWYDD hynny; daeth haid enfawr o bryfed i dŷ Pharo ac i dai ei weision, a difethwyd holl dir gwlad yr Aifft gan y pryfed.
25Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud, “Ewch i aberthu i'ch Duw yma yn y wlad.” 26Ond dywedodd Moses, “Ni fyddai'n briodol inni wneud hynny, oherwydd byddwn yn aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid; ac os aberthwn yn eu gŵydd bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid, oni fyddant yn ein llabyddio? 27Rhaid inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, fel y mae ef yn gorchymyn inni.” 28Atebodd Pharo, “Fe adawaf i chwi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch, ond peidiwch â mynd yn rhy bell. Yn awr, gweddïwch drosof.” 29Yna dywedodd Moses, “Fe af allan oddi wrthyt a gweddïo ar yr ARGLWYDD i'r haid o bryfed symud yfory oddi wrth Pharo a'i weision a'i bobl; ond peidied Pharo â cheisio twyllo eto trwy wrthod rhyddhau'r bobl i aberthu i'r ARGLWYDD.” 30Felly aeth Moses ymaith o ŵydd Pharo i weddïo ar yr ARGLWYDD. 31Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a symudodd yr haid o bryfed oddi wrth Pharo ac oddi wrth ei weision a'i bobl; ni adawyd yr un ar ôl. 32Ond caledodd Pharo ei galon y tro hwn eto, ac ni ollyngodd y bobl yn rhydd.

Dewis Presennol:

Exodus 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda