Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 6

6
1Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cei weld yn awr beth a wnaf i Pharo; â llaw nerthol bydd yn gollwng y bobl yn rhydd, a'u gyrru ymaith o'i wlad.”
Duw yn Galw Moses
2Dywedodd Duw hefyd wrth Moses, “Myfi yw'r ARGLWYDD. 3Ymddangosais i Abraham, Isaac a Jacob fel Duw Hollalluog, ac nid oeddent yn fy adnabod wrth fy enw, ARGLWYDD. 4Hefyd, gwneuthum gyfamod â hwy i roi iddynt wlad Canaan, lle buont yn byw fel estroniaid; 5a phan glywais riddfan yr Israeliaid oedd dan orthrwm yr Eifftiaid, cofiais fy nghyfamod. 6Felly, dywed wrth yr Israeliaid, ‘Myfi yw'r ARGLWYDD, ac fe'ch rhyddhaf o orthrwm yr Eifftiaid a'ch gwaredu o'ch caethiwed, a'ch achub â braich estynedig ac â gweithredoedd nerthol o farn. 7Fe'ch cymeraf yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw i chwi; a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a'ch rhyddhaodd o orthrwm yr Eifftiaid. 8Fe'ch dygaf i'r wlad yr addewais ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob, ac fe'i rhoddaf yn eiddo i chwi. Myfi yw'r ARGLWYDD.’ ” 9Mynegodd Moses hyn wrth bobl Israel, ond nid oeddent hwy'n barod i wrando arno oherwydd eu digalondid a'u caethiwed caled.
10Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 11“Dos i ddweud wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.” 12Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Nid yw pobl Israel wedi gwrando arnaf; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf, a minnau â nam ar fy lleferydd?” 13Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, a rhoi gorchymyn iddynt ynglŷn â phobl Israel a Pharo brenin yr Aifft, er mwyn rhyddhau'r Israeliaid o wlad yr Aifft.
Achau Moses ac Aaron
14Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwythau eu tadau. Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi; dyna deuluoedd Reuben. 15Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar a Saul, mab i wraig o Ganaan; dyna deuluoedd Simeon. 16Dyma enwau meibion Lefi yn ôl eu cenedlaethau: Gerson, Cohath a Merari; bu Lefi fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd. 17Meibion Gerson: Libni a Simei, yn ôl eu teuluoedd. 18Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel; bu Cohath fyw am gant tri deg a thair o flynyddoedd. 19Meibion Merari: Mahli a Musi; dyna deuluoedd Lefi yn ôl eu cenedlaethau. 20Priododd Amram â Jochebed, chwaer ei dad, ac esgorodd hi ar Aaron a Moses; bu Amram fyw am gant tri deg a saith o flynyddoedd. 21Meibion Ishar: Cora, Neffeg a Sicri. 22Meibion Ussiel: Misael, Elsaffan a Sithri. 23Priododd Aaron ag Eliseba, merch i Aminadab a chwaer i Nahason; esgorodd hi ar Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar. 24Meibion Cora: Assir, Elcana, ac Abiasaff; dyna deuluoedd y Corahiaid. 25Priododd Eleasar, mab Aaron, ag un o ferched Putiel, ac esgorodd hi ar Phineas. Y rhain oedd y pennau-teuluoedd yn nhylwyth y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
26Dyma'r Aaron a'r Moses y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, “Dygwch yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.” 27Dyma hefyd y Moses a'r Aaron a ddywedodd wrth Pharo brenin yr Aifft am ryddhau'r Israeliaid o'r Aifft.
Gorchymyn yr ARGLWYDD i Moses ac Aaron
28Pan lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwlad yr Aifft, 29dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD; dywed wrth Pharo brenin yr Aifft y cyfan yr wyf yn ei ddweud wrthyt.” 30Ond dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Y mae nam ar fy lleferydd; sut, felly, y bydd Pharo yn gwrando arnaf?”

Dewis Presennol:

Exodus 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda