Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 38

38
Allor y Poethoffrwm
Ex. 27:1–8
1Gwnaeth allor y poethoffrwm hefyd o goed acasia; yr oedd yn sgwâr, yn bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led, a thri chufydd o uchder. 2Gwnaeth gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rhoddodd haen o bres drosti. 3Gwnaeth ar ei chyfer lestri, rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres. 4Gwnaeth hefyd ar gyfer yr allor rwyll o rwydwaith pres, a'i gosod dan ymyl yr allor fel ei bod yn ymestyn at hanner yr allor. 5Gwnaeth bedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith, i gymryd y polion. 6Gwnaeth y polion o goed acasia, a rhoi haen o bres drostynt; rhoddodd hwy drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo. 7Fe'i gwnaeth ag astellau, yn wag oddi mewn.
Y Noe Bres
Ex. 30:18
8Gwnaeth noe, a throed iddi, o ddrychau pres y gwragedd a oedd yn gwasanaethu wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Cyntedd y Tabernacl
Ex. 27:9–19
9Yna gwnaeth y cyntedd. Ar yr ochr ddeheuol yr oedd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd; 10yr oedd hefyd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian. 11Yr un modd, ar yr ochr ogleddol yr oedd llenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian. 12Ar yr ochr orllewinol yr oedd llenni hanner can cufydd o hyd, ynghyd â deg colofn a deg troed; yr oedd bachau'r colofnau a'u cylchau o arian. 13Yr oedd yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, yn hanner can cufydd. 14Yr oedd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed, 15a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd â thair colofn a thri throed. 16Yr oedd yr holl lenni o amgylch y cyntedd o liain main wedi ei nyddu. 17Yr oedd traed y colofnau o bres, ond yr oedd eu bachau a'u cylchau o arian; yr oedd pen uchaf y colofnau o arian, ac yr oedd holl golofnau'r cyntedd wedi eu cylchu ag arian. 18Yr oedd y llen ym mhorth y cyntedd wedi ei brodio o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu; yr oedd yn ugain cufydd o hyd, a phum cufydd o led, ac yn cyfateb i lenni'r cyntedd. 19Yr oedd y pedair colofn, a'u pedwar troed, o bres; y bachau, pen uchaf y colofnau, a'u cylchau, o arian. 20Yr oedd holl hoelion y tabernacl a'r cyntedd oddi amgylch o bres.
Swm yr Aur, Arian a Phres ar gyfer y Tabernacl
21Dyma'r holl bethau ar gyfer tabernacl y dystiolaeth a orchmynnodd Moses i'r Lefiaid eu gwneud dan gyfarwyddyd Ithamar fab Aaron yr offeiriad. 22Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, oedd yn gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses; 23gydag ef yr oedd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, saer a chrefftwr, ac un a allai wnïo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main.
24Cyfanswm yr aur a ddefnyddiwyd yn holl waith y cysegr, sef yr aur a offrymwyd, oedd naw ar hugain o dalentau, a saith gant tri deg sicl, yn ôl sicl y cysegr. 25Cyfanswm yr arian a roddodd y rhai o'r cynulliad a gyfrifwyd oedd can talent, a mil saith gant saith deg a phum sicl, yn ôl sicl y cysegr, 26sef beca yr un gan y rhai oedd yn ugain oed neu'n hŷn ac a rifwyd yn y cyfrifiad (hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, yw beca). Nifer y dynion oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant pum deg. 27O'r can talent o arian y lluniwyd y traed ar gyfer y cysegr a'r gorchudd, can troed o'r can talent, sef talent i bob troed. 28O'r mil saith gant saith deg a phum sicl, gwnaeth fachau ar gyfer y colofnau, a goreurodd ben uchaf y colofnau a'u cylchau. 29Cyfanswm y pres yn yr offrwm oedd saith deg o dalentau, a dwy fil pedwar can sicl; 30o'r rhain gwnaeth draed ar gyfer drws pabell y cyfarfod, yr allor bres a'r rhwyll bres oedd ar ei chyfer, ynghyd â holl lestri'r allor, 31y traed ar gyfer y cyntedd o amgylch, a'r porth, a holl hoelion y tabernacl a'r hoelion o amgylch y cyntedd.

Dewis Presennol:

Exodus 38: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda