Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 19

19
Yr Israeliaid ym Mynydd Sinai
1Ar ddiwrnod cyntaf y trydydd mis wedi i'r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sinai. 2Wedi iddynt ymadael â Reffidim a chyrraedd anialwch Sinai, cododd Israel wersyll yno gyferbyn â'r mynydd. 3Aeth Moses i fyny at fynydd Duw#19:3 Felly Fersiynau. Hebraeg, at Dduw., a galwodd yr ARGLWYDD arno o'r mynydd a dweud, “Fel hyn y dywedi wrth dylwyth Jacob ac wrth bobl Israel: 4‘Fe welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid, ac fel y codais chwi ar adenydd eryrod a'ch cludo ataf fy hun. 5Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd. 6Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyma'r geiriau yr wyt i'w llefaru wrth bobl Israel.”
7Felly aeth Moses i alw henuriaid y bobl, a gosod o'u blaen yr holl eiriau hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo. 8Atebodd y bobl i gyd yn unfryd, “Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD.” Yna adroddodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD. 9Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Edrych, fe ddof atat mewn cwmwl tew er mwyn i'r bobl fy nghlywed yn llefaru wrthyt ac ymddiried ynot am byth.” 10Pan fynegodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho hefyd, “Dos at y bobl, a chysegra hwy heddiw ac yfory; boed iddynt olchi eu dillad, 11a bod yn barod erbyn y trydydd dydd, oherwydd ar y trydydd dydd fe ddaw'r ARGLWYDD i lawr ar Fynydd Sinai yng ngolwg yr holl bobl. 12Gosod ffin o amgylch y mynydd#19:12 Felly Pumllyfr y Samariaid. Cymh. adn. 23. Hebraeg, bobl., a dywed, ‘Gwyliwch rhag i chwi fynd i fyny i'r mynydd na chyffwrdd â'i ffin; oherwydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â'r mynydd, fe'i rhoddir i farwolaeth 13trwy ei labyddio neu ei saethu, ond peidied neb â'i gyffwrdd â'i law. Prun bynnag ai dyn ai anifail ydyw, ni chaiff fyw.’ Nid ydynt i ddod i fyny i'r mynydd nes y cenir yn hir ar y corn hwrdd.” 14Yna aeth Moses i lawr o'r mynydd at y bobl, a'u cysegru; a golchasant eu dillad. 15Dywedodd wrthynt, “Byddwch barod erbyn y trydydd dydd, a pheidiwch â mynd yn agos at wraig.”
16Ar fore'r trydydd dydd, daeth taranau a mellt a chwmwl tew ar y mynydd, ac yr oedd sŵn yr utgorn mor gryf nes i'r holl bobl oedd yn y gwersyll ddychryn. 17Yna daeth Moses â'r bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â Duw, ac aethant i sefyll wrth odre'r mynydd. 18Yr oedd Mynydd Sinai yn fwg i gyd, oherwydd i'r ARGLWYDD ddod i lawr arno mewn tân; yr oedd y mwg yn codi fel mwg ffwrn, a'r mynydd i gyd yn crynu drwyddo. 19Wrth i sŵn yr utgorn gryfhau, llefarodd Moses, ac atebodd Duw ef yn y daran. 20Yna disgynnodd yr ARGLWYDD ar ben Mynydd Sinai; galwodd Moses i ben y mynydd, ac aeth yntau i fyny. 21Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos i lawr a rhybuddia'r bobl, rhag iddynt frysio i rythu ar yr ARGLWYDD ac i lawer ohonynt farw. 22Rhaid i'r offeiriaid sy'n nesáu at yr ARGLWYDD hefyd eu cysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro.” 23Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Ni all y bobl ddod i fyny i Fynydd Sinai, oherwydd iti ein rhybuddio i osod ffin o amgylch y mynydd a'i gysegru.” 24Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos i lawr, a thyrd ag Aaron i fyny gyda thi, ond paid â gadael i'r offeiriaid a'r bobl ruthro i fyny at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro.” 25Felly aeth Moses i lawr at y bobl a dweud hyn wrthynt.

Dewis Presennol:

Exodus 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda