Aeth yntau allan i'w gyfarch, ac ymgrymu a'i gusanu; yna ar ôl iddynt gyfarch ei gilydd, aethant i mewn i'r babell. Adroddodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD i Pharo a'r Eifftiaid er mwyn Israel, a'r holl helbul a gawsant ar y ffordd, ac fel yr achubodd yr ARGLWYDD hwy. Llawenychodd Jethro oherwydd yr holl bethau da a wnaeth yr ARGLWYDD i Israel trwy eu hachub o law'r Eifftiaid, a dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a'ch achubodd o law'r Eifftiaid ac o law Pharo. Gwn yn awr fod yr ARGLWYDD yn fwy na'r holl dduwiau, oherwydd fe achubodd y bobl o law'r Eifftiaid a fu'n eu trin yn drahaus.” Yna cyflwynodd Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, boethoffrwm ac ebyrth i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gydag ef ym mhresenoldeb Duw.
Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr. Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?” Atebodd Moses ef, “Am fod y bobl yn dod ataf i ymgynghori â Duw. Pan fydd achos yn codi, fe ddônt ataf fi i mi farnu rhwng pobl a'i gilydd, a datgan deddfau Duw a'i gyfreithiau.” Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho, “Nid dyma'r ffordd orau iti weithredu. Byddi di a'r bobl sydd gyda thi wedi diffygio'n llwyr; y mae'r gwaith yn rhy drwm iti, ac ni elli ei gyflawni dy hun. Gwrando'n awr arnaf fi, ac fe'th gynghoraf, a bydded Duw gyda thi. Ti sydd i gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a dod â'u hachosion ato ef. Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud. Ond ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg. Boed iddynt hwy farnu'r bobl ar bob achlysur; gallent ddod â phob achos anodd atat ti, ond hwy eu hunain sydd i farnu pob achos syml. Bydd yn ysgafnach arnat os byddant hwy'n rhannu'r baich â thi. Os gwnei hyn, a hynny ar orchymyn Duw, gelli ddal ati; ac fe â'r bobl hyn i gyd adref yn fodlon.”
Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith, a gwnaeth bopeth a orchmynnodd ef. Dewisodd wŷr galluog o blith yr holl Israeliaid a'u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg. Hwy oedd yn barnu'r bobl ar bob achlysur; deuent â'r achosion dyrys at Moses, ond hwy eu hunain oedd yn barnu'r holl achosion syml. Ffarweliodd Moses â'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro adref i'w wlad ei hun.