Exodus 18:7-27
Exodus 18:7-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth yntau allan i'w gyfarch, ac ymgrymu a'i gusanu; yna ar ôl iddynt gyfarch ei gilydd, aethant i mewn i'r babell. Adroddodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD i Pharo a'r Eifftiaid er mwyn Israel, a'r holl helbul a gawsant ar y ffordd, ac fel yr achubodd yr ARGLWYDD hwy. Llawenychodd Jethro oherwydd yr holl bethau da a wnaeth yr ARGLWYDD i Israel trwy eu hachub o law'r Eifftiaid, a dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a'ch achubodd o law'r Eifftiaid ac o law Pharo. Gwn yn awr fod yr ARGLWYDD yn fwy na'r holl dduwiau, oherwydd fe achubodd y bobl o law'r Eifftiaid a fu'n eu trin yn drahaus.” Yna cyflwynodd Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, boethoffrwm ac ebyrth i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gydag ef ym mhresenoldeb Duw. Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr. Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?” Atebodd Moses ef, “Am fod y bobl yn dod ataf i ymgynghori â Duw. Pan fydd achos yn codi, fe ddônt ataf fi i mi farnu rhwng pobl a'i gilydd, a datgan deddfau Duw a'i gyfreithiau.” Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho, “Nid dyma'r ffordd orau iti weithredu. Byddi di a'r bobl sydd gyda thi wedi diffygio'n llwyr; y mae'r gwaith yn rhy drwm iti, ac ni elli ei gyflawni dy hun. Gwrando'n awr arnaf fi, ac fe'th gynghoraf, a bydded Duw gyda thi. Ti sydd i gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a dod â'u hachosion ato ef. Ti hefyd sydd i ddysgu i'r bobl y deddfau a'r cyfreithiau, a rhoi gwybod iddynt sut y dylent ymddwyn a beth y dylent ei wneud. Ond ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg. Boed iddynt hwy farnu'r bobl ar bob achlysur; gallent ddod â phob achos anodd atat ti, ond hwy eu hunain sydd i farnu pob achos syml. Bydd yn ysgafnach arnat os byddant hwy'n rhannu'r baich â thi. Os gwnei hyn, a hynny ar orchymyn Duw, gelli ddal ati; ac fe â'r bobl hyn i gyd adref yn fodlon.” Gwrandawodd Moses ar ei dad-yng-nghyfraith, a gwnaeth bopeth a orchmynnodd ef. Dewisodd wŷr galluog o blith yr holl Israeliaid a'u gwneud yn benaethiaid ar y bobl, ac yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg. Hwy oedd yn barnu'r bobl ar bob achlysur; deuent â'r achosion dyrys at Moses, ond hwy eu hunain oedd yn barnu'r holl achosion syml. Ffarweliodd Moses â'i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro adref i'w wlad ei hun.
Exodus 18:7-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma Moses yn mynd allan i’w gyfarfod, yn ymgrymu o’i flaen ac yn ei gyfarch drwy ei gusanu. Ar ôl holi ei gilydd sut oedd pethau wedi bod, dyma nhw’n mynd yn ôl i babell Moses. Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i wneud i’r Pharo a phobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wedi’u hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wedi’u helpu nhw drwy’r cwbl. Roedd Jethro wrth ei fodd yn clywed am y cwbl roedd yr ARGLWYDD wedi’i wneud i achub pobl Israel o’r Aifft. “Bendith ar yr ARGLWYDD,” meddai. “Mae wedi’ch achub chi oddi wrth y Pharo a’r Eifftiaid! Dw i’n gweld nawr fod yr ARGLWYDD yn gryfach na’r duwiau i gyd! Mae’n gallu gwneud beth maen nhw’n brolio amdano yn well na nhw!” Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm i’w losgi ac aberthau eraill i’w cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwyta’r aberthau o flaen Duw. Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio o’i flaen o fore gwyn tan nos. Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma fe’n dweud, “Pam wyt ti’n gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Mae’r bobl yn gorfod sefyll yma drwy’r dydd yn disgwyl eu tro.” “Mae’r bobl yn dod ata i am eu bod eisiau gwybod beth mae Duw’n ddweud,” meddai Moses. “Pan mae dadl yn codi rhwng pobl, maen nhw’n gofyn i mi farnu, a dw i’n dweud wrthyn nhw beth ydy rheolau ac arweiniad Duw.” “Dydy hyn ddim yn iawn,” meddai tad-yng-nghyfraith Moses. “Byddi wedi ymlâdd – ti a’r bobl. Mae’n ormod o faich i ti ei gario ar dy ben dy hun. Gwranda ar air o gyngor, a bydd Duw yn dy helpu di. Gelli di gynrychioli’r bobl o flaen Duw, a mynd â’u hachosion ato. Gelli eu dysgu nhw am reolau a chyfreithiau Duw, a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fyw a beth ddylen nhw wneud. Ond yna rhaid i ti ddewis dynion cyfrifol – dynion duwiol a gonest, fyddai’n gwrthod derbyn breib – a’u penodi nhw’n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. Cân nhw farnu’r achosion cyffredin o ddydd i ddydd, ond dod â’r achosion anodd atat ti. Gad iddyn nhw ysgafnhau’r baich arnat ti drwy ddelio gyda’r achosion hawdd. Os gwnei di hynny (a dyna mae Duw eisiau), byddi di’n llwyddo i ymdopi, a bydd y bobl yn mynd adre’n fodlon.” Gwrandawodd Moses ar gyngor ei dad-yng-nghyfraith a gwneud y cwbl roedd yn ei awgrymu. Dewisodd ddynion cyfrifol o blith pobl Israel, a’u penodi nhw’n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. Roedden nhw’n barnu’r achosion cyffredin, ac yn mynd â’r achosion anodd at Moses. Roedden nhw’n gallu delio gyda’r achosion hawdd eu hunain. Yna dyma Moses yn ffarwelio gyda’i dad-yng-nghyfraith, ac aeth Jethro yn ôl adre i’w wlad ei hun.
Exodus 18:7-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell. A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr ARGLWYDD i Pharo ac i’r Eifftiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r ARGLWYDD hwynt. A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid. A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid. Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr ARGLWYDD na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt. A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i DDUW: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron DUW. A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu’r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o’r bore hyd yr hwyr. A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr? A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â DUW. Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau DUW a’i gyfreithiau. A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur. Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun. Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd DUW gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron DUW, a dwg eu hachosion at DDUW. Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnânt. Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni DUW, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt-hwy a ddygant y baich gyda thi. Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o DDUW i ti; yna ti a elli barhau, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch. A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe. A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain. A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.