Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o Elim, ac ar y pymthegfed dydd o'r ail fis wedi iddynt adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai. Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch, a dweud wrthynt, “O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd â newyn.”
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Byddaf yn glawio arnoch fara o'r nefoedd, a bydd y bobl yn mynd allan a chasglu bob dydd ddogn diwrnod, er mwyn i mi eu profi a gweld a ydynt am ddilyn fy nghyfraith ai peidio. Ond ar y chweched dydd y maent i baratoi dwywaith cymaint ag y byddent yn ei gasglu ar ddiwrnod arall.” Yna dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid, “Yn yr hwyr cewch wybod mai'r ARGLWYDD a'ch arweiniodd allan o wlad yr Aifft, ac yn y bore cewch weld ei ogoniant, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Pwy ydym ni, eich bod yn grwgnach yn ein herbyn?” Dywedodd Moses hefyd, “Fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig i'w fwyta yn yr hwyr, a'ch gwala o fara yn y bore, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Felly, pwy ydym ni? Nid yn ein herbyn ni y mae eich grwgnach, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.”
Dywedodd Moses wrth Aaron, “Dywed wrth holl gynulliad pobl Israel, ‘Dewch yn agos at yr ARGLWYDD, oherwydd y mae ef wedi clywed eich grwgnach.’ ” A thra oedd Aaron yn siarad â hwy, a hwythau'n edrych tua'r anialwch, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD mewn cwmwl. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf wedi clywed grwgnach yr Israeliaid; dywed wrthynt, ‘Yn y cyfnos cewch fwyta cig, ac yn y bore cewch eich gwala o fara; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.’ ”
Yn yr hwyr daeth soflieir a gorchuddio'r gwersyll, ac yn y bore yr oedd haen o wlith o'i amgylch. Pan gododd y gwlith, yr oedd caenen denau ar hyd wyneb yr anialwch, mor denau â llwydrew ar y ddaear. Gwelodd yr Israeliaid ef, a dweud wrth ei gilydd, “Beth yw hwn?” Oherwydd nid oeddent yn gwybod beth ydoedd. Dywedodd Moses wrthynt, “Hwn yw'r bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwyta. Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Y mae pob un i gasglu ohono gymaint ag a all ei fwyta; cymerwch omer yr un ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.’ ” Gwnaeth yr Israeliaid hyn; yr oedd rhai'n casglu llawer, eraill ychydig, ac wedi iddynt ei fesur wrth yr omer, nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig. Yr oedd pob un yn casglu cymaint ag a allai ei fwyta. Dywedodd Moses wrthynt, “Peidied neb â chadw dim ohono'n weddill hyd drannoeth.” Ond ni wrandawsant arno, a chadwodd rhai beth ohono'n weddill hyd drannoeth; magodd bryfed, a dechreuodd ddrewi, ac yr oedd Moses yn ddig wrthynt. Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai.
Ar y chweched dydd casglasant ddwywaith cymaint o fara, dau omer yr un, a daeth holl swyddogion y cynulliad at Moses i fynegi hyn iddo. Dywedodd yntau wrthynt, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.’ Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore.” Fe'i cadwasant hyd y bore, fel yr oedd Moses wedi gorchymyn, ac ni ddrewodd na magu pryfed. Yna dywedodd Moses, “Bwytewch ef heddiw, oherwydd y mae'r dydd hwn yn Saboth i'r ARGLWYDD; ni chewch mohono yn y maes heddiw. Am chwe diwrnod y casglwch ef, ond ar y seithfed dydd, sef y Saboth, ni bydd dim ohono ar gael.” Aeth rhai o'r bobl allan ar y seithfed dydd i'w gasglu, ond ni chawsant ddim. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Am ba hyd yr ydych am wrthod cadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau? Edrychwch, yr ARGLWYDD a roddodd y Saboth i chwi; am hynny, fe rydd i chwi ar y chweched dydd fara am ddau ddiwrnod. Arhoswch gartref, bawb ohonoch, a pheidied neb â symud oddi yno ar y seithfed dydd.” Felly gorffwysodd y bobl ar y seithfed dydd.
Rhoddodd tŷ Israel yr enw manna arno; yr oedd fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrlladen wedi ei gwneud o fêl. Dywedodd Moses, “Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: ‘Llanwer omer ohono i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw, er mwyn iddynt weld y bara a rois i chwi i'w fwyta yn yr anialwch pan ddygais chwi allan o wlad yr Aifft.’ ” Dywedodd Moses wrth Aaron, “Cymer grochan, a rho ynddo omer lawn o'r manna, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw.” Gosododd Aaron ef o flaen y dystiolaeth i'w gadw, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Bu'r Israeliaid yn bwyta manna am ddeugain mlynedd, nes iddynt ddod i wlad gyfannedd ar gyrion gwlad Canaan. (Degfed ran o effa yw omer.)