Yna canodd Moses a'r Israeliaid y gân hon i'r ARGLWYDD:
“Canaf i'r ARGLWYDD am iddo weithredu'n fuddugoliaethus;
bwriodd y ceffyl a'i farchog i'r môr.
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,
ac ef yw'r un a'm hachubodd;
ef yw fy Nuw, ac fe'i gogoneddaf,
Duw fy nhad, ac fe'i dyrchafaf.
Y mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr;
yr ARGLWYDD yw ei enw.
Taflodd gerbydau Pharo a'i fyddin i'r môr,
a boddwyd ei gapteiniaid dethol yn y Môr Coch.
Daeth llifogydd i'w gorchuddio,
a disgynasant i'r dyfnderoedd fel carreg.
Y mae nerth dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, yn ogoneddus;
dy ddeheulaw, O ARGLWYDD, a ddryllia'r gelyn.
Trwy dy fawrhydi aruchel darostyngaist dy wrthwynebwyr;
gollyngaist dy ddigofaint, ac fe'u difaodd hwy fel sofl.
Trwy chwythiad dy ffroenau casglwyd y dyfroedd ynghyd;
safodd y ffrydiau yn bentwr,
a cheulodd y dyfnderoedd yng nghanol y môr.
Dywedodd y gelyn, ‘Byddaf yn erlid ac yn goddiweddyd;
rhannaf yr ysbail, a chaf fy nigoni ganddo;
tynnaf fy nghleddyf, a'u dinistrio â'm llaw.’
Ond pan chwythaist ti â'th anadl, gorchuddiodd y môr hwy,
nes iddynt suddo fel plwm i'r dyfroedd mawrion.
Pwy ymhlith y duwiau sy'n debyg i ti, O ARGLWYDD?
Pwy sydd fel tydi, yn ogoneddus ei sancteiddrwydd,
yn teilyngu parch a mawl, ac yn gwneud rhyfeddodau?
Pan estynnaist dy ddeheulaw,
llyncodd y ddaear hwy.
“Yn dy drugaredd, arweini'r bobl a waredaist,
a thrwy dy nerth eu tywys i'th drigfan sanctaidd.
Fe glyw y bobloedd, a dychryn,
a daw gwewyr ar drigolion Philistia.
Bydd penaethiaid Edom yn brawychu,
ac arweinwyr Moab yn arswydo,
a holl drigolion Canaan yn toddi.
Daw ofn a braw arnynt;
oherwydd mawredd dy fraich byddant mor llonydd â charreg,
nes i'th bobl di, O ARGLWYDD, fynd heibio,
nes i'r bobl a brynaist ti fynd heibio.
Fe'u dygi i mewn a'u plannu ar y mynydd sy'n eiddo i ti,
y man, O ARGLWYDD, a wnei yn drigfan i ti dy hun,
y cysegr, O ARGLWYDD, a godi â'th ddwylo.
Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu byth bythoedd.”