Yna dywedodd Moses, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua hanner nos, byddaf yn mynd allan trwy ganol yr Eifftiaid, a bydd farw pob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo, sy'n eistedd ar ei orsedd, hyd gyntafanedig y forwyn sydd wrth y felin, a chyntafanedig pob anifail hefyd. Bydd llefain mawr trwy holl wlad yr Aifft, mwy nag a fu o'r blaen nac a welir eto. Ond ymhlith yr Israeliaid, ni bydd hyd yn oed gi yn ysgyrnygu ei ddannedd ar ddyn nac anifail; trwy hynny fe fyddwch yn gwybod bod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Aifft ac Israel. Fe ddaw pob un o'th weision i lawr ataf ac ymgrymu o'm blaen a dweud, ‘Dos allan, ti a phawb sy'n dy ganlyn.’ Yna fe af finnau allan.” Aeth o ŵydd Pharo wedi ei gythruddo. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Ni fydd Pharo'n gwrando arnoch; felly byddaf yn amlhau fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.”
Darllen Exodus 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Exodus 11:4-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos