Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 6:1-12

Deuteronomium 6:1-12 BCND

Dyma'r gorchmynion, y deddfau a'r cyfreithiau y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw eu dysgu ichwi i'w cadw yn y wlad yr ydych yn mynd iddi i'w meddiannu, er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau. Gwrando, O Israel, a gofala eu cadw, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n cynyddu mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid. Gwrando, O Israel: Y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD. Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth. Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi. Yr wyt i'w rhwymo yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Ysgrifenna hwy ar byst dy dŷ ac ar dy byrth. Yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad y tyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iti, gwlad o ddinasoedd mawr a theg nad adeiladwyd mohonynt gennyt, hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni, gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.