Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 6:1-12

Deuteronomium 6:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Dyma’r gorchmynion, y rheolau a’r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i mi i’w dysgu i chi, er mwyn i chi eu cadw nhw yn y wlad lle dych chi’n mynd. Byddwch chi’n dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw drwy gadw’i reolau a’i orchmynion – chi, eich plant, a’ch wyrion a’ch wyresau. Cadwch nhw tra byddwch chi byw, a chewch fyw yn hir. Gwrandwch yn ofalus, bobl Israel! Os gwnewch chi hyn, bydd pethau’n mynd yn dda i chi. Bydd eich niferoedd chi’n tyfu’n aruthrol, ac fel gwnaeth yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, addo i chi, bydd gynnoch chi wlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. “Gwranda Israel! Yr ARGLWYDD ein Duw ydy’r unig ARGLWYDD. Rwyt i garu’r ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth. “Paid anghofio’r pethau dw i’n eu gorchymyn i ti heddiw. Rwyt i’w dysgu’n gyson i dy blant, a’u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore. Rhwyma nhw ar dy freichiau i dy atgoffa di, a gwisga nhw ar dy dalcen i’w cofio. Ysgrifenna nhw ar ffrâm drws dy dŷ, ac ar giatiau’r dref. ARGLWYDD “Roedd yr ARGLWYDD wedi addo rhoi gwlad i’ch hynafiaid, Abraham, Isaac a Jacob – lle mae dinasoedd mawr hardd wnaethoch chi ddim eu hadeiladu; tai yn llawn pethau wnaethoch chi mo’u casglu; pydewau wnaethoch chi ddim eu cloddio; gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo’u plannu. Digon i’w fwyta! Pan fydd yr ARGLWYDD yn dod â chi i’r wlad yna, peidiwch anghofio’r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision.

Deuteronomium 6:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dyma'r gorchmynion, y deddfau a'r cyfreithiau y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw eu dysgu ichwi i'w cadw yn y wlad yr ydych yn mynd iddi i'w meddiannu, er mwyn i chwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw a chadw yr holl ddeddfau a gorchmynion yr wyf yn eu rhoi i chwi a'ch plant a phlant eich plant holl ddyddiau eich bywyd, ac er mwyn estyn eich dyddiau. Gwrando, O Israel, a gofala eu cadw, fel y bydd yn dda arnat, ac y byddi'n cynyddu mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid. Gwrando, O Israel: Y mae'r ARGLWYDD ein Duw yn un ARGLWYDD. Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth. Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. Yr wyt i'w hadrodd i'th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi'n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi'n mynd i gysgu ac yn codi. Yr wyt i'w rhwymo yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Ysgrifenna hwy ar byst dy dŷ ac ar dy byrth. Yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dod â thi i'r wlad y tyngodd i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei rhoi iti, gwlad o ddinasoedd mawr a theg nad adeiladwyd mohonynt gennyt, hefyd tai yn llawn o bethau daionus na ddarparwyd mohonynt gennyt, a phydewau na chloddiwyd gennyt, a gwinllannoedd ac olewydd na phlannwyd gennyt. Pan fyddi'n bwyta ac yn cael dy ddigoni, gofala na fyddi'n anghofio'r ARGLWYDD dy Dduw a ddaeth â thi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.

Deuteronomium 6:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dyma ’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu: Fel yr ofnech yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau. Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd ARGLWYDD DDUW dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. Clyw, O Israel; yr ARGLWYDD ein DUW ni sydd un ARGLWYDD. Câr di gan hynny yr ARGLWYDD dy DDUW â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth. A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon. A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny. A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth. Ac fe a dderfydd, wedi i’r ARGLWYDD dy DDUW dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist, A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwyta, a’th ddigoni; Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr ARGLWYDD, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.