Onid yw hyn gennyf wrth gefn,
wedi ei selio yn fy stôr,
mai i mi y perthyn dial a thalu'r pwyth,
pan fydd eu troed yn llithro?
Yn wir, y mae dydd eu trychineb yn agos,
a'u distryw yn brysio atynt.
Rhydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl
a bydd yn trugarhau wrth ei weision,
pan wêl fod eu nerth wedi darfod,
ac nad oes ar ôl na chaeth na rhydd.
Yna fe ddywed, “Ble mae eu duwiau,
y graig y buont yn ceisio lloches dani,
y duwiau oedd yn bwyta braster eu hebyrth
ac yn yfed gwin eu diodoffrwm?
Bydded iddynt hwy godi a'ch helpu,
a bod yn lloches ichwi!
Gwelwch yn awr mai myfi, myfi yw Ef,
ac nad oes Duw ond myfi.
Myfi sy'n lladd, a gwneud yn fyw,
myfi sy'n archolli, ac yn iacháu;
ni all neb achub o'm gafael i.
“Codaf fy llaw tua'r nef, a dweud:
Cyn sicred â'm bod yn byw'n dragywydd,
os hogaf fy nghleddyf disglair,
a chydio ynddo â'm llaw mewn barn,
byddaf yn dial ar fy ngwrthwynebwyr
ac yn talu'r pwyth i'r rhai sy'n fy nghasáu.
Gwnaf fy saethau yn feddw â gwaed,
a bydd fy nghleddyf yn bwyta cnawd,
sef gwaed y clwyfedig a'r carcharorion,
a phennau arweinwyr y gelyn.”
Bloeddiwch fawl ei bobl, O genhedloedd,
oherwydd y mae'n dial gwaed ei weision!
Daw â dial ar ei wrthwynebwyr,
ac arbed ei dir a'i bobl ei hun.