Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 12

12
Dewis Canolfan Addoli
1Dyma'r deddfau a'r cyfreithiau yr ydych i ofalu eu cadw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi ei rhoi ichwi i'w meddiannu tra byddwch byw yn y tir. 2Yr ydych i lwyr ddinistrio'r holl fannau ar y mynyddoedd uchel a'r bryniau, a than bob pren gwyrddlas, lle mae'r cenhedloedd yr ydych yn eu disodli yn addoli eu duwiau. 3Yr ydych i dynnu i lawr eu hallorau, dryllio'u colofnau, llosgi eu pyst Asera yn y tân, torri i lawr ddelwau eu duwiau, a dinistrio'u henwau o'r mannau hynny.
4Nid yn ôl eu dull hwy y gwnewch i'r ARGLWYDD eich Duw. 5Yn hytrach ceisiwch y man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis o'ch holl lwythau yn drigfan i'w enw; yno y dewch, 6a chyflwyno eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, eich addunedau a'ch offrymau gwirfodd, a chyntafanedig eich gwartheg a'ch defaid. 7Yno gerbron yr ARGLWYDD eich Duw y byddwch chwi a'ch teuluoedd yn bwyta ac yn llawenhau ym mhopeth a wnewch, oherwydd i'r ARGLWYDD eich Duw eich bendithio.
8Nid ydych i wneud yn union fel y gwnawn yma heddiw, lle y mae pawb yn gwneud fel y myn, 9oherwydd nid ydych eto wedi cyrraedd yr orffwysfa a'r etifeddiaeth y mae'r ARGLWYDD eich Duw am eu rhoi ichwi. 10Unwaith y byddwch dros yr Iorddonen ac yn byw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth ichwi, cewch lonydd oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, a byddwch yn byw mewn diogelwch. 11Yna fe ddygwch i'r man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, a'ch rhoddion dethol, y rhai yr ydych wedi eu haddunedu i'r ARGLWYDD. 12A byddwch yn llawenhau gerbron yr ARGLWYDD eich Duw, chwi a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion hefyd, a'r Lefiaid yn eich trefi, am nad oes ganddynt gyfran nac etifeddiaeth gyda chwi.
13Gwylia rhag aberthu dy boethoffrymau ym mhobman a weli, 14ond abertha hwy yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis o fewn un o'th lwythau; yno y gwnei bopeth yr wyf yn ei orchymyn iti. 15Er hynny, cei ladd a bwyta faint a fynni o gig yn dy drefi, yn ôl yr hyn a gei drwy fendith yr ARGLWYDD dy Dduw, fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân ei fwyta. 16Er hynny, nid ydych i fwyta'r gwaed, ond ei dywallt fel dŵr ar y ddaear. 17Ni chei fwyta yn dy drefi dy ddegwm o ŷd, nac o win newydd nac o olew, na chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, na dim sydd wedi ei addunedu gennyt, na'th offrymau gwirfodd, na'th gyfraniadau. 18Rhaid iti fwyta'r rheini gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, yn y man y bydd ef yn ei ddewis; dyna a wnei di, dy fab, dy ferch, dy was, dy forwyn, a'r Lefiaid sydd yn dy drefi, a llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth a wnei. 19Gwylia rhag esgeuluso'r Lefiaid tra byddi byw yn dy dir.
20Pan fydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn helaethu dy derfynau yn ôl ei addewid iti, a chwant bwyd yn dod arnat a thithau'n dweud, “Yr wyf am fwyta cig”, cei fwyta faint a fynni. 21Os bydd y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis i osod ei enw yno yn bell oddi wrthyt, cei ladd un o'th wartheg neu o'th ddefaid a roes yr ARGLWYDD iti, fel y gorchmynnais iti, a bwyta yn dy drefi gymaint ag a fynni. 22Cei fwyta ohono fel petai'n gig gafrewig neu garw; caiff yr aflan a'r glân fel ei gilydd ei fwyta. 23Ond gofalwch beidio â bwyta'r gwaed, oherwydd y gwaed yw'r bywyd, ac nid wyt i fwyta'r bywyd gyda'r cig. 24Ni chei ei fwyta; yr wyt i'w dywallt fel dŵr ar y ddaear. 25Paid â'i fwyta, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy ôl, am iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. 26Ond am y pethau sydd gennyt i'w cysegru, a'th addunedau, cymer hwy a dos i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis, 27ac abertha dy boethoffrymau, y cig a'r gwaed, ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw; y mae gwaed dy ebyrth i'w dywallt ar allor yr ARGLWYDD dy Dduw, ond cei fwyta'r cig. 28Gofala wrando ar yr holl eiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti, fel y byddo'n dda arnat ti a'th blant ar dy ôl hyd byth, am iti wneud yr hyn sy'n dda ac yn iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD dy Dduw.
Rhybuddion rhag Eilunod
29Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn distrywio o'th flaen y cenhedloedd yr wyt yn mynd i'w disodli. Pan fyddant wedi eu disodli a'u difa o'th flaen, a thithau'n byw yn eu gwlad, 30gwylia rhag iti gael dy rwydo i'w canlyn, a holi am eu duwiau: “Sut yr oedd y cenhedloedd hyn yn addoli eu duwiau, er mwyn i minnau wneud yr un fath?” 31Nid yn ôl eu dull hwy y gwnei i'r ARGLWYDD dy Dduw, oherwydd yr oedd y cwbl a wnaent hwy i'w duwiau yn ffieidd-dra atgas gan yr ARGLWYDD; yr oeddent hyd yn oed yn llosgi eu meibion a'u merched yn y tân i'w duwiau. 32#12:32 Hebraeg, 13:1. Gofala wneud popeth yr wyf fi yn ei orchymyn iti, heb ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda