Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 10

10
Derbyn y Deg Gorchymyn Eilwaith
Ex. 34:1–10
1Yr adeg honno, dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Nadd ddwy lechen fel y rhai cyntaf, a thyrd i fyny ataf i'r mynydd; gwna hefyd arch bren. 2Fe ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a ddrylliaist; yna gosod di hwy yn yr arch.” 3Gwneuthum arch o goed acasia, a naddu dwy lechen fel y rhai cyntaf, a mynd i fyny i'r mynydd gyda'r llechau yn fy nwylo. 4Ac yna, yn union fel y gwnaeth y tro cyntaf, fe ysgrifennodd yr ARGLWYDD ar y llechau y deg gorchymyn a lefarodd wrthych o ganol y tân ar y mynydd ar ddydd y cynulliad, ac fe'u rhoddodd imi. 5Wedi hyn deuthum i lawr o'r mynydd, a gosodais y llechau yn yr arch a wneuthum, ac y maent yno, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD imi.
6Teithiodd yr Israeliaid o ffynhonnau'r Jaacaneaid i Mosera. Bu Aaron farw yno, ac yno y claddwyd ef; a daeth Eleasar ei fab yn offeiriad yn ei le. 7Teithiasant oddi yno i Gudgoda, ac o Gudgoda i Jotbatha, gwlad lle'r oedd ffrydiau dŵr. 8Yr adeg honno neilltuodd yr ARGLWYDD lwyth Lefi i gario arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac i sefyll gerbron yr ARGLWYDD i'w wasanaethu, a bendithio yn ei enw, fel y gwnânt hyd heddiw. 9Dyna pam nad oes gan Lefi ran nac etifeddiaeth gyda'i gymrodyr; yr ARGLWYDD yw ei etifeddiaeth, fel yr addawodd yr ARGLWYDD dy Dduw iddo.
10Fel y tro cyntaf, arhosais ar y mynydd am ddeugain diwrnod a deugain nos; gwrandawodd yr ARGLWYDD arnaf fel y gwnaeth yr adeg honno, oherwydd nid oedd yr ARGLWYDD yn dymuno eich difa. 11Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cod ac arwain y bobl er mwyn iddynt fynd i feddiannu'r wlad y tyngais i'w hynafiaid y byddwn yn ei rhoi iddynt.”
Gofynion yr ARGLWYDD
12Yn awr, O Israel, beth y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gennyt? Dy fod yn ofni'r ARGLWYDD dy Dduw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i garu, a gwasanaethu'r ARGLWYDD dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid; 13dy fod hefyd yn cadw ei orchmynion a'i ddeddfau yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw, fel y byddo'n dda arnat. 14Edrych, eiddo'r ARGLWYDD dy Dduw yw'r nefoedd a nef y nefoedd, hefyd y ddaear a'r cyfan sydd arni. 15Ond rhoddodd yr ARGLWYDD ei serch ar dy hynafiaid ac fe'u carodd, a dewis eu disgynyddion ar eu hôl; ie, eich dewis chwi o blith yr holl bobloedd, fel y mae'n gwneud heddiw. 16Yn awr, enwaedwch eich calonnau, a pheidiwch â bod yn ystyfnig eto. 17Oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw yw Duw y duwiau ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn ac ofnadwy; nid yw'n dangos ffafriaeth nac yn cymryd llwgrwobr. 18Y mae'n gwneud cyfiawnder â'r amddifad a'r weddw, yn caru'r dieithr, ac yn rhoi iddynt fwyd a dillad. 19Yr ydych chwithau i garu'r dieithryn, gan ichwi fod yn ddieithriaid yng ngwlad yr Aifft. 20Yr wyt i ofni'r ARGLWYDD dy Dduw a'i wasanaethu; yr wyt i lynu wrtho ac i dyngu yn ei enw. 21Ef yw dy fawl, ac ef yw dy Dduw, a wnaeth iti'r pethau mawr ac ofnadwy hyn a welaist â'th lygaid dy hun. 22Yn ddeg a thrigain o bobl yr aeth dy hynafiaid i lawr i'r Aifft, ond yn awr y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dy wneud mor niferus â sêr y nefoedd.

Dewis Presennol:

Deuteronomium 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda