“Yr oeddwn i, Nebuchadnesar, yn mwynhau bywyd braf yn fy nhŷ a moethusrwydd yn fy llys. Tra oeddwn ar fy ngwely, cefais freuddwyd a'm dychrynodd, a chynhyrfwyd fi gan fy nychmygion, a chododd fy ngweledigaethau arswyd arnaf. Gorchmynnais ddwyn ataf holl ddoethion Babilon i ddehongli fy mreuddwyd. Pan ddaeth y dewiniaid, y swynwyr, y Caldeaid, a'r hudolwyr, adroddais y freuddwyd wrthynt, ond ni fedrent ei dehongli. Yna daeth un arall ataf, sef Daniel, a elwir Beltesassar ar ôl fy nuw i, dyn yn llawn o ysbryd y duwiau sanctaidd; ac adroddais fy mreuddwyd wrtho: ‘Beltesassar fy mhrif ddewin, gwn fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ac nad oes dirgelwch sy'n rhy anodd i ti; gwrando ar y freuddwyd a welais, a mynega'i dehongliad.’ Dyma fy ngweledigaethau ar fy ngwely:
Tra oeddwn yn edrych, gwelais goeden uchel iawn yng nghanol y ddaear.
Tyfodd y goeden yn fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion;
yr oedd i'w gweld o bellteroedd byd.
Yr oedd ei dail yn brydferth a'i ffrwyth yn niferus,
ac ymborth arni i bopeth byw.
Oddi tani câi anifeiliaid loches,
a thrigai adar yr awyr yn ei changhennau,
a châi pob creadur byw fwyd ohoni.
“Tra oeddwn ar fy ngwely, yn edrych ar fy ngweledigaethau, gwelwn wyliwr sanctaidd yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn gweiddi'n uchel,
‘Torrwch y goeden, llifiwch ei changhennau;
tynnwch ei dail a gwasgarwch ei ffrwyth.
Gwnewch i'r anifeiliaid ffoi o'i chysgod a'r adar o'i changhennau.
Ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear,
a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes.
Bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu,
a bydd ei le gyda'r anifeiliaid sy'n pori'r ddaear.
Newidir y galon ddynol sydd ganddo
a rhoir calon anifail iddo yn ei lle.
Bydd hyn dros saith cyfnod.
Dedfryd y gwylwyr yw hyn,
a dyma ddatganiad y rhai sanctaidd,
er mwyn i bawb byw wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn, ac yn gosod yr isaf yn ben arnynt.’
“Dyma'r freuddwyd a welais i, y Brenin Nebuchadnesar. Dywed tithau, Beltesassar, beth yw'r dehongliad, oherwydd ni fedr yr un o ddoethion fy nheyrnas ei dehongli imi, ond medri di, am fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot.” Aeth Daniel, a enwyd Beltesassar, yn fud am funud, a'i feddwl mewn penbleth. Dywedodd y brenin, “Paid â gadael i'r freuddwyd a'r dehongliad dy boeni, Beltesassar.” Atebodd yntau, “Boed hon yn freuddwyd i'th gaseion, a'i dehongliad i'th elynion. Y goeden a welaist yn tyfu'n fawr a chryf, a'i huchder yn cyrraedd i'r entrychion ac i'w gweld o bellteroedd byd, a'i dail yn brydferth, a'i ffrwyth yn niferus, ac ymborth arni i bopeth, a lloches i anifeiliaid oddi tani, a chartref i adar yr awyr yn ei changhennau— ti, O frenin, yw'r goeden honno. Yr wyt wedi tyfu'n fawr a chryf, a'th fawredd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd i'r entrychion, a'th frenhiniaeth yn ymestyn i bellteroedd byd. Fe welaist hefyd, O frenin, wyliwr sanctaidd yn dod i lawr ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden a difethwch hi, ond gadewch y boncyff a'i wraidd yn y ddaear, a chadwyn o haearn a phres amdano yng nghanol y maes; bydd gwlith y nefoedd yn ei wlychu, a bydd ei le gyda'r anifeiliaid, hyd nes i saith cyfnod fynd heibio.’ Dyma'r dehongliad, O frenin: Datganiad y Goruchaf ynglŷn â'm harglwydd frenin yw hwn. Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid; byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd gwlith y nefoedd yn dy wlychu. Bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn. Am y gorchymyn i adael boncyff y pren a'i wraidd, bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog wedi iti ddeall mai'r nefoedd sy'n teyrnasu. Derbyn fy nghyngor, O frenin: tro oddi wrth dy bechodau trwy wneud cyfiawnder, a'th droseddau trwy wneud trugaredd â'r tlodion, iti gael dyddiau hir o heddwch.”
Digwyddodd hyn i gyd i'r Brenin Nebuchadnesar. Ym mhen deuddeng mis, yr oedd y brenin yn cerdded ar do ei balas ym Mabilon, ac meddai, “Onid hon yw Babilon fawr, a godais trwy rym fy nerth yn gartref i'r brenin ac er clod i'm mawrhydi?” Cyn i'r brenin orffen siarad, daeth llais o'r nefoedd, “Dyma neges i ti, O Frenin Nebuchadnesar: Cymerwyd y frenhiniaeth oddi arnat. Cei dy yrru o ŵydd pobl, a bydd dy gartref gyda'r anifeiliaid. Byddi'n bwyta gwellt fel ych, a bydd saith cyfnod yn mynd heibio, nes iti wybod mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn.” Digwyddodd hyn ar unwaith i Nebuchadnesar. Cafodd ei yrru o ŵydd pobl; yr oedd yn bwyta gwellt fel ych, ei gorff yn wlyb gan wlith y nefoedd, ei wallt yn hir fel plu eryr, a'i ewinedd yn hir fel crafangau aderyn.
“Ymhen amser, codais i, Nebuchadnesar, fy llygaid i'r nefoedd, ac adferwyd fy synnwyr. Yna bendithiais y Goruchaf, a moli a mawrhau'r un sy'n byw yn dragywydd.
Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol,
a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
Nid yw neb o drigolion y ddaear yn cyfrif dim;
y mae'n gwneud fel y mynno â llu'r nefoedd
ac â thrigolion y ddaear.
Ni fedr neb ei atal, a gofyn iddo,
‘Beth wyt yn ei wneud?’
Y pryd hwnnw adferwyd fy synnwyr a dychwelodd fy mawrhydi a'm clod, er gogoniant fy mrenhiniaeth. Daeth fy nghynghorwyr a'm tywysogion ataf. Cadarnhawyd fi yn fy nheyrnas, a rhoddwyd llawer mwy o rym i mi. Ac yn awr yr wyf fi, Nebuchadnesar, yn moli, yn mawrhau ac yn clodfori Brenin y Nefoedd, sydd â'i weithredoedd yn gywir a'i ffyrdd yn gyfiawn, ac yn gallu darostwng y balch.”