Daniel 10
10
Y Weledigaeth ar Lan Afon Tigris
1Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia rhoddwyd datguddiad i Daniel, a elwid Beltesassar. Yr oedd yn ddatguddiad gwir, er ei bod yn ymdrech fawr ei ddeall; ond rhoddwyd iddo ddeall trwy'r weledigaeth.
2Yn y dyddiau hynny, yr oeddwn i, Daniel, mewn galar am dair wythnos. 3Ni fwyteais ddanteithion ac ni chyffyrddais â chig na gwin, ac nid irais fy hun am y tair wythnos gyfan. 4Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf, a minnau'n eistedd ar lan yr afon fawr, afon Tigris, 5codais fy ngolwg a gwelais ddyn wedi ei wisgo mewn lliain, a gwregys o aur Offir am ei ganol. 6Yr oedd ei gorff fel maen beryl a'i wyneb fel mellt; yr oedd ei lygaid fel ffaglau tân, ei freichiau a'i draed fel pres gloyw, a'i lais fel sŵn tyrfa. 7Myfi, Daniel, yn unig a welodd y weledigaeth; ni welodd y rhai oedd gyda mi mohoni, ond daeth arnynt ddychryn mawr a ffoesant i ymguddio. 8Gadawyd fi ar fy mhen fy hun i edrych ar y weledigaeth fawr hon; pallodd fy nerth, newidiodd fy ngwedd yn arswydus, ac euthum yn wan. 9Fe'i clywais yn siarad, ac wrth wrando ar sŵn ei eiriau syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg. 10Yna cyffyrddodd llaw â mi, a'm gosod yn sigledig ar fy ngliniau a'm dwylo, 11a dywedodd wrthyf, “Daniel, cefaist ffafr; ystyria'r geiriau a lefaraf wrthyt, a saf ar dy draed, oherwydd anfonwyd fi atat.” Pan lefarodd wrthyf, codais yn grynedig. 12Yna dywedodd wrthyf, “Paid ag ofni, Daniel, oherwydd o'r dydd cyntaf y penderfynaist geisio deall ac ymostwng o flaen dy Dduw, clywyd dy eiriau; ac oherwydd hynny y deuthum i. 13Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog#10:13 Felly Groeg. Hebraeg, yno gyda. brenhinoedd Persia. 14Deuthum i roi gwybod i ti beth a ddigwydd i'th bobl yn niwedd y dyddiau, oherwydd gweledigaeth am y dyfodol yw hon hefyd.”
15Wedi iddo ddweud hyn wrthyf, ymgrymais hyd lawr heb ddweud dim. 16Yna cyffyrddodd un tebyg i fod dynol â'm gwefusau, ac agorais fy ngenau i siarad, a dywedais wrth yr un oedd yn sefyll o'm blaen, “F'arglwydd, y mae fy ngofid yn fawr oherwydd y weledigaeth, a phallodd fy nerth. 17Sut y gall gwas f'arglwydd ddweud dim wrth f'arglwydd, a minnau yn awr heb nerth nac anadl ynof?” 18Unwaith eto cyffyrddodd yr un tebyg i fod dynol â mi a'm cryfhau, 19a dweud, “Paid ag ofni, cefaist ffafr; heddwch i ti. Bydd wrol, bydd gryf.” Ac fel yr oedd yn siarad â mi cefais nerth, a dywedais, “Llefara, f'arglwydd, oblegid rhoddaist nerth i mi.” 20Yna dywedodd, “A wyddost pam y deuthum atat? Dywedaf wrthyt beth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gwirionedd. Rwy'n dychwelyd yn awr i ymladd â thywysog Persia, ac wedyn fe ddaw tywysog Groeg.#10:20 Hebraeg, trefn y ddwy frawddeg yn wahanol. 21Ac nid oes neb yn fy nghynorthwyo yn erbyn y rhai hyn ar wahân i'ch tywysog Mihangel.”
Dewis Presennol:
Daniel 10: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004