Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 7:7-17

Amos 7:7-17 BCND

Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd â llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Llinyn plwm.” A dywedodd yr Arglwydd, “Wele fi'n gosod llinyn plwm yng nghanol fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto. Difodir uchelfeydd Isaac a distrywir cysegrleoedd Israel; a chodaf gleddyf yn erbyn tŷ Jeroboam.” Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, “Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tŷ Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau. Oherwydd fel hyn y dywed Amos: ‘Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ” A dywedodd Amaseia wrth Amos, “Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno. Paid â phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth.” Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, “Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor; ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’ Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD. “Yr wyt ti'n dweud, ‘Paid â phroffwydo yn erbyn Israel, a phaid â llefaru yn erbyn tŷ Isaac.’ Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas; fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf; rhennir dy dir â'r llinyn; byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”