Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 7:7-17

Amos 7:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd â llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law. A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Llinyn plwm.” A dywedodd yr Arglwydd, “Wele fi'n gosod llinyn plwm yng nghanol fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto. Difodir uchelfeydd Isaac a distrywir cysegrleoedd Israel; a chodaf gleddyf yn erbyn tŷ Jeroboam.” Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, “Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tŷ Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau. Oherwydd fel hyn y dywed Amos: ‘Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ” A dywedodd Amaseia wrth Amos, “Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno. Paid â phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth.” Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, “Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor; ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’ Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD. “Yr wyt ti'n dweud, ‘Paid â phroffwydo yn erbyn Israel, a phaid â llefaru yn erbyn tŷ Isaac.’ Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas; fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf; rhennir dy dir â'r llinyn; byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”

Amos 7:7-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Wedyn dyma fe’n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi’i hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law. Gofynnodd yr ARGLWYDD i mi, “Beth wyt ti’n weld, Amos?” Dyma finnau’n ateb, “Llinyn plwm”. A dyma fy Meistr yn dweud, “Dw i’n mynd i ddefnyddio llinyn plwm i fesur fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto. Bydd allorau paganaidd pobl Isaac yn cael eu chwalu, a chanolfannau addoli pobl Israel yn cael eu dinistrio’n llwyr. Dw i’n mynd i ymosod ar deulu brenhinol Jeroboam hefo cleddyf.” Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o’r pethau mae e’n ei ddweud. Achos mae e’n dweud pethau fel yma: ‘Bydd Jeroboam yn cael ei ladd mewn rhyfel, a bydd pobl Israel yn cael eu cymryd i ffwrdd o’u gwlad yn gaethion.’” Roedd Amaseia hefyd wedi dweud wrth Amos, “Gwell i ti fynd o ma, ti a dy weledigaethau! Dianc yn ôl i wlad Jwda! Dos i ennill dy fywoliaeth yno, a phroffwyda yno! Paid byth proffwydo yn Bethel eto, achos dyma lle mae’r brenin yn addoli, yn y cysegr brenhinol.” A dyma Amos yn ateb Amaseia: “Dw i ddim yn broffwyd proffesiynol, nac yn perthyn i urdd o broffwydi. Bridio anifeiliaid a thyfu coed ffigys oeddwn i’n ei wneud. Ond dyma’r ARGLWYDD yn fy nghymryd i ffwrdd o ffermio defaid, ac yn dweud wrtho i, ‘Dos i broffwydo i’m pobl Israel.’ Felly, gwrando, dyma neges yr ARGLWYDD. Ti’n dweud wrtho i am stopio proffwydo i bobl Israel a phregethu i bobl Isaac. Ond dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud

Amos 7:7-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach. Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf. Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef. Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad. Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno: Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw. Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion: A’r ARGLWYDD a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd; a’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel. Yr awr hon gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.