Clywch y gair hwn, fuchod Basan,
sydd ym mynydd Samaria,
sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus,
sy'n dweud wrth eu gwŷr, “Dewch â gwin, inni gael yfed”:
Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd,
“Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnoch
pan ddygir chwi i ffwrdd â bachau,
a'r olaf ohonoch â bachau pysgota.
Ac ewch allan trwy'r bylchau,
pob un ohonoch ar ei chyfer,
ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD.
“Dewch i Fethel a throseddu,
i Gilgal a phechu fwyfwy;
dygwch eich aberthau bob bore
a'ch degymau bob tridiau;
offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd,
cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys;
canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW.
“Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd,
ac eisiau bara ym mhob man;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
“Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych,
pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf;
rhoddais law ar un ddinas,
a'i atal oddi ar un arall;
glawiodd ar un cae,
a gwywodd y cae na chafodd law;
crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinas
i yfed dŵr, ond heb gael digon;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
“Trewais chwi â malltod a llwydni;
difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd;
bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
“Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft;
lleddais eich llanciau â'r cleddyf,
a chaethgludo eich meirch;
gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
“Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,
ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
“Hyn felly a wnaf i ti, Israel.
Gan fy mod am wneud hyn i ti,
bydd yn barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw.”
Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrëwr y gwynt,
yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw,
yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch,
ac yn cerdded uchelderau'r ddaear—
yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.