Tra oeddent yn llefaru wrth y bobl, daeth yr offeiriaid a phrif swyddog gwarchodlu'r deml a'r Sadwceaid ar eu gwarthaf, yn flin am eu bod hwy'n dysgu'r bobl ac yn cyhoeddi ynglŷn â Iesu yr atgyfodiad oddi wrth y meirw. Cymerasant afael arnynt a'u rhoi mewn dalfa hyd drannoeth, oherwydd yr oedd hi'n hwyr eisoes. Ond daeth llawer o'r rhai oedd wedi clywed y gair yn gredinwyr, ac aeth eu nifer i gyd yn rhyw bum mil.
Trannoeth bu cyfarfod o lywodraethwyr a henuriaid ac ysgrifenyddion yr Iddewon yn Jerwsalem. Yr oedd Annas yr archoffeiriad yno, a Caiaffas ac Ioan ac Alexander a phawb oedd o deulu archoffeiriadol. Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, “Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?” Yna, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, dywedodd Pedr wrthynt: “Lywodraethwyr y bobl, a henuriaid, os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iacháu, bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach. Iesu yw
“ ‘Y maen a ddiystyrwyd gennych chwi yr adeiladwyr,
ac a ddaeth yn faen y gongl.’
“Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu. Sylweddolent hefyd eu bod hwy wedi bod gyda Iesu. Ac wrth weld y dyn oedd wedi ei iacháu yn sefyll gyda hwy, nid oedd ganddynt ddim ateb. Ac wedi gorchymyn iddynt fynd allan o'r llys, dechreusant ymgynghori â'i gilydd. “Beth a wnawn a'r dynion hyn?” meddent. “Oherwydd y mae'n amlwg i bawb sy'n preswylio yn Jerwsalem fod gwyrth hynod wedi digwydd trwyddynt hwy, ac ni allwn ni wadu hynny. Ond rhag taenu'r peth ymhellach ymhlith y bobl, gadewch inni eu rhybuddio nad ydynt i lefaru mwyach yn yr enw hwn wrth neb o gwbl.” Galwasant hwy i mewn, a gorchymyn nad oeddent i siarad na dysgu o gwbl yn enw Iesu. Ond atebodd Pedr ac Ioan hwy: “A yw'n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi. Ni allwn ni dewi â sôn am y pethau yr ydym wedi eu gweld a'u clywed.” Ar ôl eu rhybuddio ymhellach gollyngodd y llys hwy'n rhydd, heb gael dim modd i'w cosbi, oherwydd y bobl; oblegid yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi digwydd. Yr oedd y dyn y gwnaethpwyd y wyrth iachaol hon arno dros ddeugain mlwydd oed.
Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt. Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: “O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phob peth sydd ynddynt, ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni:
“ ‘Pam y terfysgodd y Cenhedloedd
ac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer?
Safodd brenhinoedd y ddaear,
ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghyd
yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.’
“Canys yn y ddinas hon yn wir ymgasglodd yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd â'r Cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.