Actau 4:1-28
Actau 4:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tra oedd Pedr ac Ioan wrthi’n siarad â’r bobl dyma’r offeiriaid yn dod draw atyn nhw gyda phennaeth gwarchodlu’r deml a rhai o’r Sadwceaid. Doedden nhw ddim yn hapus o gwbl fod Pedr ac Ioan yn dysgu’r bobl am Iesu ac yn dweud y byddai pobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Felly dyma nhw’n arestio’r ddau a’u cadw yn y ddalfa dros nos am ei bod hi wedi mynd yn hwyr yn y dydd. Ond roedd llawer o’r bobl a glywodd beth roedden nhw’n ei ddweud wedi dod i gredu. Erbyn hyn roedd tua pum mil o ddynion yn credu yn Iesu, heb sôn am y gwragedd a’r plant! Y diwrnod wedyn dyma’r cyngor, sef yr arweinwyr a’r henuriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith, yn cyfarfod yn Jerwsalem. Roedd Annas, yr archoffeiriad, yno, hefyd Caiaffas, Ioan, Alecsander ac aelodau eraill o deulu’r archoffeiriad. Dyma nhw’n galw Pedr ac Ioan i ymddangos o’u blaenau a dechrau eu holi: “Pa bŵer ysbrydol, neu pa enw wnaethoch chi ei ddefnyddio i wneud hyn?” Dyma Pedr, wedi’i lenwi â’r Ysbryd Glân, yn eu hateb: “Arweinwyr a henuriaid y genedl. Ydyn ni’n cael ein galw i gyfrif yma heddiw am wneud tro da i ddyn oedd yn methu cerdded? Os dych chi eisiau gwybod sut cafodd y dyn ei iacháu, dweda i wrthoch chi. Dw i am i bobl Israel i gyd wybod! Enw Iesu y Meseia o Nasareth sydd wedi iacháu’r dyn yma sy’n sefyll o’ch blaen chi. Yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e’n ôl yn fyw. Iesu ydy’r un mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn amdano: ‘Mae’r garreg wrthodwyd gynnoch chi’r adeiladwyr, wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.’ Fe ydy’r unig un sy’n achub! Does neb arall yn unman sy’n gallu achub pobl.” Roedd aelodau’r cyngor yn rhyfeddu fod Pedr ac Ioan mor hyderus. Roedden nhw’n gweld mai dynion cyffredin di-addysg oedden nhw, ond yn ymwybodol hefyd fod y dynion yma wedi bod gyda Iesu. Gan fod y dyn oedd wedi cael ei iacháu yn sefyll yno o’u blaenau, doedd dim byd arall i’w ddweud. Felly dyma nhw’n eu hanfon allan o’r Sanhedrin er mwyn trafod y mater gyda’i gilydd. “Beth wnawn ni â’r dynion yma?” medden nhw. “Mae pawb yn Jerwsalem yn gwybod eu bod wedi cyflawni gwyrth anhygoel, a dŷn ni ddim yn gallu gwadu hynny. Ond mae’n rhaid stopio hyn rhag mynd ymhellach. Rhaid i ni eu rhybuddio nhw i beidio dysgu am yr Iesu yma byth eto.” Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o’u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto. Ond dyma Pedr ac Ioan yn ateb, “Beth fyddai Duw am i ni ei wneud? Penderfynwch chi – gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe? Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dŷn ni wedi’u gweld a’u clywed.” Dyma nhw’n eu bygwth eto, ond yna’n eu gollwng yn rhydd. Doedd dim modd eu cosbi nhw, am fod y bobl o’u plaid nhw. Roedd pawb yn moli Duw am yr hyn oedd wedi digwydd. Roedd hi’n wyrth anhygoel! Roedd y dyn dros bedwar deg oed a doedd e ddim wedi cerdded erioed o’r blaen! Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a’r henuriaid wedi’i fygwth. Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw’n gweddïo gyda’i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy’n rheoli’r cwbl, a thi ydy’r Un sydd wedi creu yr awyr a’r ddaear a’r môr a’r cwbl sydd ynddyn nhw. Ti ddwedodd drwy’r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae’r cenhedloedd mor gynddeiriog, a’r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio? Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad a’r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i wrthwynebu’r Arglwydd, ac i wrthwynebu ei Eneiniog.’ “Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio. Ond dim ond gwneud beth roeddet ti wedi’i drefnu i ddigwydd oedden nhw!
Actau 4:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tra oeddent yn llefaru wrth y bobl, daeth yr offeiriaid a phrif swyddog gwarchodlu'r deml a'r Sadwceaid ar eu gwarthaf, yn flin am eu bod hwy'n dysgu'r bobl ac yn cyhoeddi ynglŷn â Iesu yr atgyfodiad oddi wrth y meirw. Cymerasant afael arnynt a'u rhoi mewn dalfa hyd drannoeth, oherwydd yr oedd hi'n hwyr eisoes. Ond daeth llawer o'r rhai oedd wedi clywed y gair yn gredinwyr, ac aeth eu nifer i gyd yn rhyw bum mil. Trannoeth bu cyfarfod o lywodraethwyr a henuriaid ac ysgrifenyddion yr Iddewon yn Jerwsalem. Yr oedd Annas yr archoffeiriad yno, a Caiaffas ac Ioan ac Alexander a phawb oedd o deulu archoffeiriadol. Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, “Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?” Yna, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, dywedodd Pedr wrthynt: “Lywodraethwyr y bobl, a henuriaid, os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iacháu, bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach. Iesu yw “ ‘Y maen a ddiystyrwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn faen y gongl.’ “Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu. Sylweddolent hefyd eu bod hwy wedi bod gyda Iesu. Ac wrth weld y dyn oedd wedi ei iacháu yn sefyll gyda hwy, nid oedd ganddynt ddim ateb. Ac wedi gorchymyn iddynt fynd allan o'r llys, dechreusant ymgynghori â'i gilydd. “Beth a wnawn a'r dynion hyn?” meddent. “Oherwydd y mae'n amlwg i bawb sy'n preswylio yn Jerwsalem fod gwyrth hynod wedi digwydd trwyddynt hwy, ac ni allwn ni wadu hynny. Ond rhag taenu'r peth ymhellach ymhlith y bobl, gadewch inni eu rhybuddio nad ydynt i lefaru mwyach yn yr enw hwn wrth neb o gwbl.” Galwasant hwy i mewn, a gorchymyn nad oeddent i siarad na dysgu o gwbl yn enw Iesu. Ond atebodd Pedr ac Ioan hwy: “A yw'n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi. Ni allwn ni dewi â sôn am y pethau yr ydym wedi eu gweld a'u clywed.” Ar ôl eu rhybuddio ymhellach gollyngodd y llys hwy'n rhydd, heb gael dim modd i'w cosbi, oherwydd y bobl; oblegid yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi digwydd. Yr oedd y dyn y gwnaethpwyd y wyrth iachaol hon arno dros ddeugain mlwydd oed. Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt. Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: “O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phob peth sydd ynddynt, ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni: “ ‘Pam y terfysgodd y Cenhedloedd ac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer? Safodd brenhinoedd y ddaear, ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghyd yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.’ “Canys yn y ddinas hon yn wir ymgasglodd yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd â'r Cenhedloedd a phobloedd Israel, i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.
Actau 4:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a’r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy; Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl, ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw. A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil. A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem, Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn? Yna Pedr, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef; Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi. Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl. Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a’u hadwaenent, eu bod hwy gyda’r Iesu. Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i’w ddywedyd yn erbyn hynny. Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â’i gilydd, Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i’r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a’r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu. Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn. A hwy a’u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu. Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi. Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom. Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i’w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid. Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth. A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt; Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda’r Cenhedloedd, a phobl Israel, I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur.