Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 27:1-38

Actau 27:1-38 BCND

Pan benderfynwyd ein bod i hwylio i'r Eidal, trosglwyddwyd Paul a rhai carcharorion eraill i ofal canwriad o'r enw Jwlius, o'r fintai Ymerodrol. Aethom ar fwrdd llong o Adramytium oedd ar hwylio i'r porthladdoedd ar hyd glannau Asia, a chodi angor. Yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica, gyda ni. Trannoeth, cyraeddasom Sidon. Bu Jwlius yn garedig wrth Paul, a rhoddodd ganiatâd iddo fynd at ei gyfeillion, iddynt ofalu amdano. Oddi yno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus, am fod y gwyntoedd yn ein herbyn; ac wedi inni groesi'r môr sydd gyda glannau Cilicia a Pamffylia, cyraeddasom Myra yn Lycia. Yno cafodd y canwriad long o Alexandria oedd yn hwylio i'r Eidal, a gosododd ni arni. Buom am ddyddiau lawer yn hwylio'n araf, ac yn cael trafferth i gyrraedd i ymyl Cnidus. Gan fod y gwynt yn dal i'n rhwystro, hwyliasom i gysgod Creta gyferbyn â Salmone, a thrwy gadw gyda'r tir, daethom â chryn drafferth i le a elwid Porthladdoedd Teg, nid nepell o dref Lasaia. Gan fod cryn amser wedi mynd heibio, a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oedd gŵyl yr Ympryd drosodd eisoes, rhoes Paul y cyngor hwn iddynt: “Ddynion, rwy'n gweld y bydd mynd ymlaen â'r fordaith yma yn sicr o beri difrod a cholled enbyd, nid yn unig i'r llwyth ac i'r llong, ond i'n bywydau ni hefyd.” Ond yr oedd y canwriad yn rhoi mwy o goel ar y peilot a meistr y llong nag ar eiriau Paul. A chan fod y porthladd yn anghymwys i fwrw'r gaeaf ynddo, yr oedd y rhan fwyaf o blaid hwylio oddi yno, yn y gobaith y gallent rywfodd gyrraedd Phenix, porthladd yn Creta yn wynebu'r de orllewin a'r gogledd-orllewin, a bwrw'r gaeaf yno. Pan gododd gwynt ysgafn o'r de, tybiasant fod eu bwriad o fewn eu cyrraedd. Codasant angor, a dechrau hwylio gyda glannau Creta, yn agos i'r tir. Ond cyn hir, rhuthrodd gwynt tymhestlog, Ewraculon fel y'i gelwir, i lawr o'r tir. Cipiwyd y llong ymaith, a chan na ellid dal ei thrwyn i'r gwynt, bu raid ildio, a chymryd ein gyrru o'i flaen. Wedi rhedeg dan gysgod rhyw ynys fechan a elwir Cawda, llwyddasom, trwy ymdrech, i gael y bad dan reolaeth. Codasant ef o'r dŵr, a mynd ati â chyfarpar i amwregysu'r llong; a chan fod arnynt ofn cael eu bwrw ar y Syrtis, tynasant y gêr hwylio i lawr, a mynd felly gyda'r lli. Trannoeth, gan ei bod hi'n dal yn storm enbyd arnom, dyma ddechrau taflu'r llwyth i'r môr; a'r trydydd dydd, lluchio gêr y llong i ffwrdd â'u dwylo eu hunain. Ond heb na haul na sêr i'w gweld am ddyddiau lawer, a'r storm fawr yn dal i'n llethu, yr oedd pob gobaith am gael ein hachub bellach yn diflannu. Yna, wedi iddynt fod heb fwyd am amser hir, cododd Paul yn eu canol hwy a dweud: “Ddynion, dylasech fod wedi gwrando arnaf fi, a pheidio â hwylio o Creta, ac arbed y difrod hwn a'r golled. Ond yn awr yr wyf yn eich cynghori i godi'ch calon; oherwydd ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, dim ond colli'r llong. Oherwydd neithiwr safodd yn fy ymyl angel y Duw a'm piau, yr hwn yr wyf yn ei addoli, a dweud, ‘Paid ag ofni, Paul; y mae'n rhaid i ti sefyll gerbron Cesar, a dyma Dduw o'i ras wedi rhoi i ti fywydau pawb o'r rhai sy'n morio gyda thi.’ Felly codwch eich calonnau, ddynion, oherwydd yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, fel y dywedwyd wrthyf. Ond y mae'n rhaid i ni gael ein bwrw ar ryw ynys.” Daeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ninnau'n dal i fynd gyda'r lli ar draws Môr Adria. Tua chanol nos, dechreuodd y morwyr dybio fod tir yn agosáu. Wedi plymio, cawsant ddyfnder o ugain gwryd, ac ymhen ychydig, plymio eilwaith a chael pymtheg gwryd. Gan fod arnynt ofn inni efallai gael ein bwrw ar leoedd creigiog, taflasant bedair angor o'r starn, a deisyf am iddi ddyddio. Dechreuodd y morwyr geisio dianc o'r llong, a gollwng y bad i'r dŵr, dan esgus mynd i osod angorion o'r pen blaen. Ond dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, “Os na fydd i'r rhain aros yn y llong, ni allwch chwi gael eich achub.” Yna fe dorrodd y milwyr raffau'r bad, a gadael iddo gwympo ymaith. Pan oedd hi ar ddyddio, dechreuodd Paul annog pawb i gymryd bwyd, gan ddweud, “Heddiw yw'r pedwerydd dydd ar ddeg i chwi fod yn disgwyl yn bryderus, a heb gymryd tamaid o ddim i'w fwyta. Felly yr wyf yn eich annog i gymryd bwyd, oherwydd y mae eich gwaredigaeth yn dibynnu ar hynny; ni chollir blewyn oddi ar ben yr un ohonoch.” Wedi iddo ddweud hyn, cymerodd fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, a'i dorri a dechrau bwyta. Cododd pawb eu calon, a hwythau hefyd yn cymryd bwyd. Rhwng pawb yr oedd dau gant saith deg a chwech ohonom yn y llong. Wedi iddynt gael digon o fwyd, dechreusant ysgafnhau'r llong trwy daflu'r ŷd allan i'r môr.