Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 27:1-38

Actau 27:1-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma nhw’n penderfynu ein bod i hwylio i’r Eidal. Cafodd Paul a nifer o garcharorion eraill eu rhoi yng ngofal swyddog milwrol o’r enw Jwlius – aelod o’r Gatrawd Ymerodrol. Dyma ni’n mynd ar fwrdd llong o Adramitiwm oedd ar fin mynd i nifer o borthladdoedd yn Asia, a hwylio allan i’r môr. Roedd Aristarchus, o ddinas Thesalonica yn Macedonia, gyda ni. Y diwrnod wedyn, wedi i ni lanio yn Sidon, dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen. Dyma ni’n gadael porthladd Sidon, ond roedd y gwynt yn ein herbyn ni, a bu’n rhaid i ni hwylio o gwmpas ochr gysgodol ynys Cyprus. Ar ôl croesi’r môr mawr gyferbyn ag arfordir Cilicia a Pamffilia, dyma ni’n glanio yn Myra yn Lycia. Yno daeth Jwlius o hyd i long o Alecsandria oedd ar ei ffordd i’r Eidal, a’n rhoi ni ar fwrdd honno. Roedd hi’n fordaith araf iawn am ddyddiau lawer a chawson ni drafferth mawr i gyrraedd Cnidus. Ond roedd y gwynt yn rhy gryf i ni fynd ddim pellach, a dyma ni’n cael ein gorfodi i droi i’r de tua Creta, a hwylio yng nghysgod yr ynys o gwmpas pentir Salmone. Cawson ni gryn drafferth eto i ddilyn arfordir deheuol yr ynys, ond llwyddo o’r diwedd i gyrraedd porthladd yr Hafan Deg sydd wrth ymyl tref o’r enw Lasaia. Roedden ni wedi colli lot o amser, ac roedd hi’n beryglus i hwylio yr adeg honno o’r flwyddyn. (Roedd hi’n ddechrau Hydref, a Dydd y Cymod eisoes wedi mynd heibio.) Ceisiodd Paul eu rhybuddio nhw o’r peryglon, “Gyfeillion, trychineb fydd pen draw’r fordaith yma os byddwn ni’n mynd yn ein blaenau. Byddwch chi’n colli’r llong â’i chargo, heb sôn am beryglu’n bywydau ni sy’n hwylio arni hefyd.” Ond yn lle gwrando ar Paul, dyma Jwlius yn dilyn cyngor y peilot a chapten y llong. Roedd yr Hafan Deg yn borthladd agored, a ddim yn addas iawn i aros yno dros y gaeaf. Felly dyma’r mwyafrif yn penderfynu mai ceisio hwylio yn ein blaenau oedd orau. Y gobaith oedd cyrraedd lle o’r enw Phenics ar ben gorllewinol yr ynys, ac aros yno dros y gaeaf. Roedd porthladd Phenics yn wynebu’r de-orllewin a’r gogledd-orllewin. Pan ddechreuodd awel ysgafn chwythu o gyfeiriad y de, roedden nhw’n meddwl y byddai popeth yn iawn; felly dyma godi angor a dechrau hwylio ar hyd arfordir Creta. Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o’r gogledd-ddwyrain. Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi’n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny, a chawson ni ein cario i ffwrdd ganddo. Bu bron i ni golli cwch glanio’r llong pan oedden ni’n pasio heibio ynys fach Cawda. Ar ôl i’r dynion lwyddo i’w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw’n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw’n gollwng yr angor môr ac yn gadael i’r llong gael ei gyrru gan y gwynt. Roedd y llong wedi’i churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu’r cargo i’r môr y diwrnod wedyn. A’r diwrnod ar ôl hynny dyma nhw hyd yn oed yn dechrau taflu tacl y llong i’r môr! Dyma’r storm yn para’n ffyrnig am ddyddiau lawer, a doedd dim sôn am haul na’r sêr. Erbyn hynny, roedd pawb yn meddwl ei bod hi ar ben arnon ni. Doedd neb ag awydd bwyta ers dyddiau lawer. Yna dyma Paul yn y diwedd yn sefyll o flaen pawb, ac meddai: “Dylech chi fod wedi gwrando arna i a pheidio hwylio o ynys Creta; byddech chi wedi arbed y golled yma i gyd wedyn. Ond codwch eich calonnau – does neb yn mynd i farw, er ein bod ni’n mynd i golli’r llong. Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr – sef y Duw biau fi; yr un dw i’n ei wasanaethu. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae’n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw’n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’ Felly codwch eich calonnau! Dw i’n credu fod popeth yn mynd i ddigwydd yn union fel mae Duw wedi dweud wrtho i. Ond mae’r llong yn mynd i gael ei dryllio ar greigiau rhyw ynys neu’i gilydd.” Roedd pedair noson ar ddeg wedi mynd heibio ers i’r storm ddechrau, ac roedden ni’n dal i gael ein gyrru ar draws Môr Adria. Tua hanner nos dyma’r morwyr yn synhwyro ein bod ni’n agos at dir. Dyma nhw’n plymio ac yn cael dyfnder o dri deg saith metr. Yna dyma nhw’n plymio eto ychydig yn nes ymlaen a chael dyfnder o ddau ddeg saith metr. Rhag ofn i ni gael ein hyrddio yn erbyn creigiau dyma nhw’n gollwng pedwar angor o’r starn ac yn disgwyl am olau dydd. Ond yna ceisiodd y morwyr ddianc o’r llong. Roedden nhw’n esgus eu bod nhw’n gollwng angorau ar du blaen y llong, ond yn lle gwneud hynny roedden nhw’n ceisio gollwng y cwch glanio i’r môr. Ond dyma Paul yn dweud wrth y swyddog Rhufeinig a’i filwyr, “Os fydd y dynion yna ddim yn aros ar y llong fyddwch chi ddim yn cael eich achub.” Felly dyma’r milwyr yn torri’r rhaffau oedd yn dal y cwch glanio a gadael iddi ddisgyn i’r dŵr. Dyma Paul yn annog pawb i fwyta cyn iddi wawrio. “Dych chi wedi bod yn poeni a heb fwyta dim byd ers pythefnos. Dw i’n erfyn arnoch chi i gymryd rhywbeth – bydd ei angen arnoch i ddod drwy hyn. Ond gaiff neb niwed.” Cymerodd Paul dorth o fara, diolch i Dduw o’u blaenau nhw i gyd, ac yna ei thorri a dechrau bwyta. Roedd wedi codi calon pawb, a dyma ni i gyd yn cymryd bwyd. (Roedd 276 ohonon ni ar y llong i gyd.) Ar ôl cael digon i’w fwyta dyma’r criw yn mynd ati i ysgafnhau’r llong drwy daflu’r cargo o wenith i’r môr.

Actau 27:1-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan benderfynwyd ein bod i hwylio i'r Eidal, trosglwyddwyd Paul a rhai carcharorion eraill i ofal canwriad o'r enw Jwlius, o'r fintai Ymerodrol. Aethom ar fwrdd llong o Adramytium oedd ar hwylio i'r porthladdoedd ar hyd glannau Asia, a chodi angor. Yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica, gyda ni. Trannoeth, cyraeddasom Sidon. Bu Jwlius yn garedig wrth Paul, a rhoddodd ganiatâd iddo fynd at ei gyfeillion, iddynt ofalu amdano. Oddi yno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus, am fod y gwyntoedd yn ein herbyn; ac wedi inni groesi'r môr sydd gyda glannau Cilicia a Pamffylia, cyraeddasom Myra yn Lycia. Yno cafodd y canwriad long o Alexandria oedd yn hwylio i'r Eidal, a gosododd ni arni. Buom am ddyddiau lawer yn hwylio'n araf, ac yn cael trafferth i gyrraedd i ymyl Cnidus. Gan fod y gwynt yn dal i'n rhwystro, hwyliasom i gysgod Creta gyferbyn â Salmone, a thrwy gadw gyda'r tir, daethom â chryn drafferth i le a elwid Porthladdoedd Teg, nid nepell o dref Lasaia. Gan fod cryn amser wedi mynd heibio, a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oedd gŵyl yr Ympryd drosodd eisoes, rhoes Paul y cyngor hwn iddynt: “Ddynion, rwy'n gweld y bydd mynd ymlaen â'r fordaith yma yn sicr o beri difrod a cholled enbyd, nid yn unig i'r llwyth ac i'r llong, ond i'n bywydau ni hefyd.” Ond yr oedd y canwriad yn rhoi mwy o goel ar y peilot a meistr y llong nag ar eiriau Paul. A chan fod y porthladd yn anghymwys i fwrw'r gaeaf ynddo, yr oedd y rhan fwyaf o blaid hwylio oddi yno, yn y gobaith y gallent rywfodd gyrraedd Phenix, porthladd yn Creta yn wynebu'r de orllewin a'r gogledd-orllewin, a bwrw'r gaeaf yno. Pan gododd gwynt ysgafn o'r de, tybiasant fod eu bwriad o fewn eu cyrraedd. Codasant angor, a dechrau hwylio gyda glannau Creta, yn agos i'r tir. Ond cyn hir, rhuthrodd gwynt tymhestlog, Ewraculon fel y'i gelwir, i lawr o'r tir. Cipiwyd y llong ymaith, a chan na ellid dal ei thrwyn i'r gwynt, bu raid ildio, a chymryd ein gyrru o'i flaen. Wedi rhedeg dan gysgod rhyw ynys fechan a elwir Cawda, llwyddasom, trwy ymdrech, i gael y bad dan reolaeth. Codasant ef o'r dŵr, a mynd ati â chyfarpar i amwregysu'r llong; a chan fod arnynt ofn cael eu bwrw ar y Syrtis, tynasant y gêr hwylio i lawr, a mynd felly gyda'r lli. Trannoeth, gan ei bod hi'n dal yn storm enbyd arnom, dyma ddechrau taflu'r llwyth i'r môr; a'r trydydd dydd, lluchio gêr y llong i ffwrdd â'u dwylo eu hunain. Ond heb na haul na sêr i'w gweld am ddyddiau lawer, a'r storm fawr yn dal i'n llethu, yr oedd pob gobaith am gael ein hachub bellach yn diflannu. Yna, wedi iddynt fod heb fwyd am amser hir, cododd Paul yn eu canol hwy a dweud: “Ddynion, dylasech fod wedi gwrando arnaf fi, a pheidio â hwylio o Creta, ac arbed y difrod hwn a'r golled. Ond yn awr yr wyf yn eich cynghori i godi'ch calon; oherwydd ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, dim ond colli'r llong. Oherwydd neithiwr safodd yn fy ymyl angel y Duw a'm piau, yr hwn yr wyf yn ei addoli, a dweud, ‘Paid ag ofni, Paul; y mae'n rhaid i ti sefyll gerbron Cesar, a dyma Dduw o'i ras wedi rhoi i ti fywydau pawb o'r rhai sy'n morio gyda thi.’ Felly codwch eich calonnau, ddynion, oherwydd yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, fel y dywedwyd wrthyf. Ond y mae'n rhaid i ni gael ein bwrw ar ryw ynys.” Daeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ninnau'n dal i fynd gyda'r lli ar draws Môr Adria. Tua chanol nos, dechreuodd y morwyr dybio fod tir yn agosáu. Wedi plymio, cawsant ddyfnder o ugain gwryd, ac ymhen ychydig, plymio eilwaith a chael pymtheg gwryd. Gan fod arnynt ofn inni efallai gael ein bwrw ar leoedd creigiog, taflasant bedair angor o'r starn, a deisyf am iddi ddyddio. Dechreuodd y morwyr geisio dianc o'r llong, a gollwng y bad i'r dŵr, dan esgus mynd i osod angorion o'r pen blaen. Ond dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, “Os na fydd i'r rhain aros yn y llong, ni allwch chwi gael eich achub.” Yna fe dorrodd y milwyr raffau'r bad, a gadael iddo gwympo ymaith. Pan oedd hi ar ddyddio, dechreuodd Paul annog pawb i gymryd bwyd, gan ddweud, “Heddiw yw'r pedwerydd dydd ar ddeg i chwi fod yn disgwyl yn bryderus, a heb gymryd tamaid o ddim i'w fwyta. Felly yr wyf yn eich annog i gymryd bwyd, oherwydd y mae eich gwaredigaeth yn dibynnu ar hynny; ni chollir blewyn oddi ar ben yr un ohonoch.” Wedi iddo ddweud hyn, cymerodd fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, a'i dorri a dechrau bwyta. Cododd pawb eu calon, a hwythau hefyd yn cymryd bwyd. Rhwng pawb yr oedd dau gant saith deg a chwech ohonom yn y llong. Wedi iddynt gael digon o fwyd, dechreusant ysgafnhau'r llong trwy daflu'r ŷd allan i'r môr.

Actau 27:1-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i’r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a’i enw Jwlius, o fyddin Augustus. Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o’r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica. A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd. Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia. Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i’r Ital, a’n gosododd ni ynddi. Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai’r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone. Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo. Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd, Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a’r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd. Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul. A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau-orllewin, a’r gogledd-orllewin. A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt-hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta. Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon. A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda’r gwynt. Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad: Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu’r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly. A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong; A’r trydydd dydd bwriasom â’n dwylo’n hunain daclau’r llong allan. A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan. Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a’r golled. Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus: canys ni bydd colled am einioes un ohonoch, ond am y llong yn unig. Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli, Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi. Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi. Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys. Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg, fe a ddigwyddodd, a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nos, dybied o’r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad; Ac wedi iddynt blymio, hwy a’i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a’i cawsant yn bymtheg gwryd. Ac a hwy’n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o’r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd. Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i’r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o’r pen blaen i’r llong, Dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig. Yna y torrodd y milwyr raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith. A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim. Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i’r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a’i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta. Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd. Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau. Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw’r gwenith allan i’r môr.