Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 2:22-47

Actau 2:22-47 BCND

“Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano: “ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod, ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith; oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades, nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd; byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’ “Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn. Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd, rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd: “ ‘Ni adawyd ef yn Hades, ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’ “Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono. Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed. Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw, nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’ “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.” Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?” Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.” Ac â llawer o eiriau eraill y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, “Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon.” Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau. Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau. Daeth ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy'r apostolion. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un. A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydfwyta mewn llawenydd a symledd calon, dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.