Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 2:22-47

Actau 2:22-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Bobl Israel, gwrandwch beth dw i’n ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth – dych chi’n gwybod hynny’n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol drwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e. Roedd Duw’n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai’n digwydd iddo. Gyda help y Rhufeiniaid annuwiol dyma chi’n ei ladd, drwy ei hoelio a’i hongian ar groes. Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a’i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo! Dyna’n union ddwedodd y Brenin Dafydd: ‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser. Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i. Felly mae nghalon i’n llawen a’m tafod yn gorfoleddu; mae fy nghorff yn byw mewn gobaith, am na fyddi di’n fy ngadael i gyda’r meirw, gadael i’r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd. Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’ “Frodyr a chwiorydd, mae’n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano’i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw. Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o’i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia. Roedd yn sôn am rywbeth fyddai’n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia’n dod yn ôl yn fyw oedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda’r meirw ac na fyddai ei gorff yn pydru’n y bedd! A dyna sydd wedi digwydd! – mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dŷn ni’n lygad-dystion i’r ffaith! Bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi’i addo, iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi’i weld a’i glywed yn digwydd yma heddiw. “Meddyliwch am y peth! – chafodd y Brenin Dafydd mo’i godi i fyny i’r nefoedd, ac eto dwedodd hyn: ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.”’ “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.” Roedd pobl wedi’u hysgwyd i’r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw’n gofyn iddo ac i’r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?” Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi’n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw. Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i’ch disgynyddion, ac i bobl sy’n byw yn bell i ffwrdd – pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato’i hun.” Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio’n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!” Dyma’r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio – tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw! Roedden nhw’n dal ati o ddifri – yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda’i gilydd. Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo’u bod nhw’n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda’i gilydd. Roedden nhw’n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen. Roedden nhw’n dal ati i gyfarfod bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yn nhai ei gilydd, yn llawen a hael. Roedden nhw’n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif iawn. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno â nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd.

Actau 2:22-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain. Yr oedd hwn wedi ei draddodi trwy fwriad penodedig a rhagwybodaeth Duw, ac fe groeshoeliasoch chwi ef drwy law estroniaid, a'i ladd. Ond cyfododd Duw ef, gan ei ryddhau o wewyr angau, oherwydd nid oedd dichon i angau ei ddal yn ei afael. Oherwydd y mae Dafydd yn dweud amdano: “ ‘Yr oeddwn yn gweld yr Arglwydd o'm blaen yn wastad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgydwer. Am hynny llawenychodd fy nghalon a gorfoleddodd fy nhafod, ie, a bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith; oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid yn Hades, nac yn gadael i'th Sanct weld llygredigaeth. Hysbysaist imi ffyrdd bywyd; byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenoldeb.’ “Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn. Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd, rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd: “ ‘Ni adawyd ef yn Hades, ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’ “Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono. Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed. Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw, nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’ “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.” Pan glywsant hyn, fe'u dwysbigwyd yn eu calon, a dywedasant wrth Pedr a'r apostolion eraill, “Beth a wnawn ni, gyfeillion?” Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Oherwydd i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb sydd ymhell, pob un y bydd yr Arglwydd ein Duw ni yn ei alw ato.” Ac â llawer o eiriau eraill y tystiolaethodd ger eu bron, a'u hannog, “Dihangwch rhag y genhedlaeth wyrgam hon.” Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau. Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau. Daeth ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy'r apostolion. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un. A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cydfwyta mewn llawenydd a symledd calon, dan foli Duw a chael ewyllys da'r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.

Actau 2:22-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo. Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger. Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd. Ha wŷr frodyr, y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a’i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn. Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef: Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth. Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed. Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi. Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a’r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni? A Phedr a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân. Canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i bawb ymhell, cynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato. Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe, gan ddywedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon. Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau. Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau. Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion. A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da, ac a’u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb. A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.