Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 10:37-48

Actau 10:37-48 BCND

Gwyddoch chwi'r peth a fu drwy holl Jwdea, gan ddechrau yng Ngalilea wedi'r bedydd a gyhoeddodd Ioan—Iesu o Nasareth, y modd yr eneiniodd Duw ef â'r Ysbryd Glân ac â nerth. Aeth ef oddi amgylch gan wneud daioni ac iacháu pawb oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef. Ac yr ydym ni'n dystion o'r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon ac yn Jerwsalem. A lladdasant ef, gan ei grogi ar bren. Ond cyfododd Duw ef ar y trydydd dydd, a pheri iddo ddod yn weledig, nid i'r holl bobl, ond i dystion oedd wedi eu rhagethol gan Dduw, sef i ni, y rhai a fu'n cydfwyta ac yn cydyfed gydag ef wedi iddo atgyfodi oddi wrth y meirw. Gorchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai hwn yw'r un a benodwyd gan Dduw yn farnwr y byw a'r meirw. I hwn y mae'r holl broffwydi'n tystio, y bydd pawb sy'n credu ynddo ef yn derbyn maddeuant pechodau trwy ei enw.” Tra oedd Pedr yn dal i lefaru'r pethau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb oedd yn gwrando'r gair. Synnodd y credinwyr Iddewig, cynifer ag oedd wedi dod gyda Pedr, am fod rhodd yr Ysbryd Glân wedi ei thywallt hyd yn oed ar y Cenhedloedd; oherwydd yr oeddent yn eu clywed yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna dywedodd Pedr, “A all unrhyw un wrthod y dŵr i fedyddio'r rhain, a hwythau wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel ninnau?” A gorchmynnodd eu bedyddio hwy yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros am rai dyddiau.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Actau 10:37-48