Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 10:37-48

Actau 10:37-48 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dych chi’n gwybod, mae’n siŵr, beth fuodd yn digwydd yn Jwdea. Dechreuodd y cwbl yn Galilea ar ôl i Ioan ddechrau galw pobl i gael eu bedyddio. Roedd Duw wedi eneinio Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân ac â nerth rhyfeddol. Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneud daioni ac yn iacháu pawb oedd yn dioddef am fod y diafol yn eu poeni nhw. Roedd Duw gydag e! Dŷn ni’n llygad-dystion i’r cwbl! Gwelon ni bopeth wnaeth Iesu yn Jerwsalem a gweddill Israel. Cafodd ei ladd drwy gael ei hoelio ar bren ganddyn nhw, ond ddeuddydd yn ddiweddarach dyma Duw yn dod ag e’n ôl yn fyw! Gwelodd pobl e’n fyw! (Wnaeth pawb mo’i weld, dim ond y rhai ohonon ni oedd Duw wedi’u dewis i fod yn llygad-dystion.) Buon ni’n bwyta ac yn yfed gydag e ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw! Rhoddodd orchymyn i ni gyhoeddi’r newyddion da ym mhobman, a dweud mai fe ydy’r un mae Duw wedi’i benodi i farnu pawb – pawb sy’n fyw a phawb sydd wedi marw. Fe ydy’r un mae’r proffwydi i gyd yn sôn amdano, ac yn dweud y bydd pechodau pawb sy’n credu ynddo yn cael eu maddau.” Tra oedd Pedr ar ganol dweud hyn i gyd, dyma’r Ysbryd Glân yn disgyn ar bawb oedd yn gwrando. Roedd y credinwyr Iddewig oedd gyda Pedr wedi’u syfrdanu’n llwyr fod yr Ysbryd Glân wedi cael ei dywallt ar bobl o genhedloedd eraill! Ond dyna oedd wedi digwydd – roedden nhw’n eu clywed nhw’n siarad mewn ieithoedd dieithr ac yn moli Duw. A dyma Pedr yn dweud, “Oes unrhyw un yn gallu gwrthwynebu bedyddio’r bobl yma â dŵr? Maen nhw wedi derbyn yr Ysbryd Glân yn union yr un fath â ni!” Felly dyma Pedr yn dweud eu bod nhw i gael eu bedyddio fel arwydd o ddod i berthynas â Iesu y Meseia. Wedyn dyma nhw’n gofyn i Pedr aros gyda nhw am beth amser.

Actau 10:37-48 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef. A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.