Ond fe ddylem ni ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion annwyl gan yr Arglwydd, am i Dduw eich dewis chwi fel y rhai cyntaf i brofi iachawdwriaeth trwy waith sancteiddiol gan yr Ysbryd a thrwy gredu'r gwirionedd. I hyn y galwodd ef chwi, trwy'r Efengyl yr ydym ni yn ei phregethu: i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny, gyfeillion, safwch yn gadarn, a glynwch wrth y traddodiadau yr ydych wedi eu dysgu gennym ni, naill ai ar air neu trwy lythyr. A bydded i'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw ein Tad, yr hwn sydd wedi ein caru ac wedi rhoi i ni ddiddanwch tragwyddol a gobaith da trwy ras, ddiddanu eich calonnau a'ch cadarnhau ym mhob gweithred a gair da!
Darllen 2 Thesaloniaid 2
Gwranda ar 2 Thesaloniaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Thesaloniaid 2:13-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos