Unwaith eto casglodd Dafydd yr holl wŷr dethol oedd yn Israel, sef deng mil ar hugain, ac aeth â'r holl bobl oedd gydag ef i Baalath-jwda, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar ôl ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid. Rhoesant arch Duw ar fen newydd, a'i chymryd o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, ac yr oedd Ussa ac Ahïo, meibion Abinadab, yn tywys y fen newydd. Wedi cychwyn gydag arch Duw o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, yr oedd Ahïo yn cerdded o flaen yr arch, ac yr oedd Dafydd a holl dŷ Israel yn gorfoleddu o flaen yr ARGLWYDD â'u holl ynni, dan ganu â thelynau, nablau, tympanau, sistrymau a symbalau. Pan ddaethant at lawr dyrnu Nachon, estynnodd Ussa ei law at arch Duw a gafael ynddi, am fod yr ychen yn ei hysgwyd. Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, trawodd Duw ef am yr amarch, a bu farw yno wrth arch Duw.
Darllen 2 Samuel 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Samuel 6:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos