Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 6

6
Dod ag Arch y Cyfamod i Jerwsalem
1 Cron. 13:1–14; 15:25—16:6, 43
1Unwaith eto casglodd Dafydd yr holl wŷr dethol oedd yn Israel, sef deng mil ar hugain, 2ac aeth â'r holl bobl oedd gydag ef i Baalath#6:2 Felly 1 Cron. 13:6. Hebraeg, o Baale.-jwda, i gyrchu oddi yno arch Duw, a enwir ar ôl ARGLWYDD y Lluoedd sydd â'i orsedd ar y cerwbiaid. 3Rhoesant arch Duw ar fen newydd, a'i chymryd o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, ac yr oedd Ussa ac Ahïo, meibion Abinadab, yn tywys y fen newydd. 4Wedi cychwyn gydag arch Duw o dŷ Abinadab sydd ar y bryn, yr oedd Ahïo yn cerdded o flaen yr arch, 5ac yr oedd Dafydd a holl dŷ Israel yn gorfoleddu o flaen yr ARGLWYDD â'u holl ynni, dan ganu#6:5 Felly 1 Cron. 13:8. Hebraeg, â phob coed ffynidwydd. â thelynau, nablau, tympanau, sistrymau a symbalau. 6Pan ddaethant at lawr dyrnu Nachon, estynnodd Ussa ei law at arch Duw a gafael ynddi, am fod yr ychen yn ei hysgwyd. 7Enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, trawodd Duw ef am yr amarch, a bu farw yno wrth arch Duw. 8Cynhyrfodd Dafydd am fod llid yr ARGLWYDD wedi torri allan yn erbyn Ussa, a galwodd y lle hwnnw Peres#6:8 H.y., Toriad. Ussa; a dyna'i enw hyd y dydd hwn. 9Yr oedd ofn yr ARGLWYDD ar Ddafydd y diwrnod hwnnw, a dywedodd, “Sut y deuai arch yr ARGLWYDD ataf fi?” 10Ni fynnai Dafydd symud arch yr ARGLWYDD ato i Ddinas Dafydd, ac fe'i trodd i dŷ Obed-edom o Gath. 11Arhosodd arch yr ARGLWYDD yn nhŷ Obed-edom o Gath am dri mis, a bendithiodd yr ARGLWYDD Obed-edom a'i deulu i gyd.
12Pan ddywedwyd wrth y Brenin Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi bendithio teulu Obed-edom a'r cwbl oedd ganddo, o achos arch Duw, fe aeth Dafydd a chymryd arch Duw yn llawen o dŷ Obed-edom i Ddinas Dafydd. 13Pan oedd cludwyr arch yr ARGLWYDD wedi cerdded chwe cham, aberthodd Dafydd ych ac anifail pasgedig. 14Yr oedd Dafydd yn gwisgo effod liain a dawnsiai â'i holl egni o flaen yr ARGLWYDD, 15wrth iddo ef a holl dŷ Israel hebrwng arch yr ARGLWYDD â banllefau a sain utgorn. 16Pan gyrhaeddodd arch yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy'r ffenestr, a gwelodd y Brenin Dafydd yn neidio ac yn dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon. 17Daethant ag arch yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac offrymodd Dafydd boethoffrymau a heddoffrymau o flaen yr ARGLWYDD. 18Wedi iddo orffen offrymu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y Lluoedd; 19yna rhannodd fwyd i bawb, torth o fara, darn o gig, a swp o rawnwin i bob gŵr a gwraig o holl dyrfa Israel. Yna aeth pawb adref.
20Pan ddaeth Dafydd yn ôl i gyfarch ei deulu, daeth Michal merch Saul i'w gyfarfod a dweud, “O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yn ei ddinoethi ei hun yng ngolwg morynion ei ddilynwyr, fel rhyw hurtyn yn dangos popeth!” 21Ond meddai Dafydd wrthi, “Yr oedd hyn o flaen yr ARGLWYDD, a'm dewisodd i yn hytrach na'th dad na'r un o'i deulu, a gorchymyn imi fod yn arweinydd i Israel, pobl yr ARGLWYDD; yr wyf am ddangos llawenydd o flaen yr ARGLWYDD. 22Ie, gwnaf fy hun yn fwy dirmygus, ac yn is na hyn yn dy olwg#6:22 Felly Groeg. Hebraeg, yn fy ngolwg.; ond am y morynion hynny y soniaist amdanynt, byddaf yn anrhydeddus ganddynt hwy.” 23Bu Michal merch Saul yn ddiblentyn hyd ddydd ei marw.

Dewis Presennol:

2 Samuel 6: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda