Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 8

8
Y Wraig o Sunem yn Dychwelyd
1Yr oedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig yr adfywiodd ei mab, “Muda oddi yma, ti a'th deulu, a dos i fyw lle medri, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi newyn, a bydd yn y wlad am saith mlynedd.” 2Cychwynnodd y wraig yn ôl gair gŵr Duw, ac aeth hi a'i theulu, a byw am saith mlynedd yn Philistia. 3Ymhen y saith mlynedd, dychwelodd y wraig o Philistia a mynd at y brenin i erfyn am ei thŷ a'i thir. 4Yr oedd y brenin ar y pryd yn ymddiddan â Gehasi, gwas gŵr Duw, ac yn dweud, “Dywed wrthyf hanes yr holl wrhydri a wnaeth Eliseus.” 5Ac fel yr oedd Gehasi'n adrodd wrth y brenin amdano'n adfywio un oedd wedi marw, dyna'r wraig yr adfywiodd ei mab yn dod i erfyn ar y brenin am ei thŷ a'i thir. Ac meddai Gehasi, “F'arglwydd frenin, hon yw'r wraig, a dyma'r mab a adfywiodd Eliseus.” 6Holodd y brenin hi, ac adroddodd hithau'r hanes wrtho. Yna penododd y brenin swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho'n ôl iddi ei heiddo i gyd, a chynnyrch y tir hefyd o'r diwrnod y gadawodd y wlad hyd heddiw.”
Eliseus a Ben-hadad Brenin Syria
7Daeth Eliseus i Ddamascus. Yr oedd Ben-hadad brenin Syria yn glaf, a dywedwyd wrtho fod gŵr Duw wedi cyrraedd. 8Yna dywedodd y brenin wrth Hasael, “Cymer rodd gyda thi, a dos at ŵr Duw i ymofyn â'r ARGLWYDD, a fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn.” 9Aeth Hasael ato gyda deugain llwyth camel o holl nwyddau gorau Damascus yn rhodd. Ar ôl cyrraedd, safodd o'i flaen a dweud, “Y mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi f'anfon atat i ofyn, ‘A fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn?’ ” 10Atebodd Eliseus, “Dos a dweud wrtho, ‘Rwyt yn sicr o wella.’ Ond y mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd yn sicr o farw.” 11A syllodd yn graff ar Hasael nes iddo gywilyddio, ac wylodd gŵr Duw. 12Gofynnodd Hasael, “Pam y mae f'arglwydd yn wylo?” Atebodd, “Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tân i'w caerau a lladd eu hieuenctid â'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog.” 13Dywedodd Hasael, “Sut y gall dy was, nad yw ond ci, wneud peth mor fawr â hyn?” Atebodd Eliseus, “Y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddangos imi yn frenin ar Syria.” 14Ymadawodd ag Eliseus, a phan ddaeth at ei feistr, gofynnodd hwnnw iddo, “Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt?” Atebodd yntau, “Dweud wrthyf y byddi'n sicr o wella.” 15Ond trannoeth cymerodd Hasael wrthban a'i drochi mewn dŵr a'i daenu dros wyneb y brenin. Bu farw, a daeth Hasael yn frenin yn ei le.
Jehoram Brenin Jwda
2 Cron. 21:1–20
16Yn y bumed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, tra oedd Jehosaffat yn frenin ar Jwda, dechreuodd Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda, deyrnasu. 17Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am wyth mlynedd. 18Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. 19Eto ni fynnai'r ARGLWYDD, er mwyn ei was Dafydd, ddifetha Jwda, am iddo addo rhoi lamp iddo ac#8:19 Felly Fersiynau a 2 Cron. 21:7. Hebraeg heb ac. i'w blant am byth.
20Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain. 21Croesodd Jehoram i Sair a'i holl gerbydau gydag ef; cododd liw nos ac ymosododd ef a'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu, ond ffodd y fyddin adref. 22Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Gwrthryfelodd Libna hefyd yr un pryd. 23Am weddill yr holl bethau a wnaeth Jehoram, onid ydynt wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 24Bu farw Jehoram, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.
Ahaseia Brenin Jwda
2 Cron. 22:1–6
25Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, yn frenin. 26Dwy ar hugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn. Athaleia oedd enw ei fam, wyres i Omri brenin Israel. 27Dilynodd yr un llwybr â thŷ Ahab, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab, am ei fod yn perthyn trwy briodas i dŷ Ahab. 28Aeth gyda Joram fab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth-gilead, ac anafodd y Syriaid Joram. 29Ciliodd y Brenin Joram i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda