Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni welwch na gwynt na glaw; eto llenwir y dyffryn hwn â dŵr, a chewch chwi a'ch eiddo a'ch anifeiliaid yfed. A chan mor rhwydd yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe rydd Moab yn eich llaw hefyd. Dinistriwch bob dinas gaerog a phob tref ddewisol, torrwch i lawr bob pren teg, caewch bob ffynnon ddŵr a difwynwch bob darn o dir da â cherrig.” Ac yn y bore, tuag adeg offrymu'r aberth, gwelwyd dyfroedd yn llifo o gyfeiriad Edom ac yn llenwi'r tir.
Darllen 2 Brenhinoedd 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Brenhinoedd 3:17-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos