Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef. Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau. Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen.
Darllen 2 Brenhinoedd 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Brenhinoedd 2:11-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos