Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 16

16
Ahas Brenin Jwda
2 Cron. 28:1–27
1Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg i Pecach fab Remaleia, daeth Ahas fab Jotham brenin Jwda i'r orsedd. 2Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem; ond ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw fel y gwnaeth ei dad Dafydd. 3Dilynodd esiampl brenhinoedd Israel, ac yn waeth, fe barodd i'w fab fynd trwy dân yn ôl arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid. 4Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd ac ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.
5Yr adeg honno daeth Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia brenin Israel i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Rhoesant warchae ar Ahas, ond methu ei gael i frwydro. 6Y pryd hwnnw enillwyd Elath yn ôl i Edom gan frenin Edom#16:6 Tebygol. Hebraeg, i Syria gan Resin brenin Syria., a gyrrodd ef yr Iddewon allan o Elath. Daeth yr Edomiaid yn ôl i Elath, ac y maent yn byw yno hyd heddiw.
7Anfonodd Ahas genhadau at Tiglath-pileser brenin Asyria a dweud, “Gwas a deiliad i ti wyf fi; tyrd i'm gwaredu o law brenhinoedd Syria ac Israel, sy'n ymosod arnaf.” 8Cymerodd Ahas yr arian a'r aur oedd ar gael yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas a'u hanfon yn rhodd i frenin Asyria. 9Gwrandawodd brenin Asyria arno, a mynd yn erbyn Damascus a'i goresgyn; caethgludodd ei thrigolion i Cir, a lladd Resin. 10Yna aeth y Brenin Ahas i Ddamascus i gyfarfod Tiglath-pileser brenin Asyria. Gwelodd yno allor, ac anfonodd batrwm ohoni a holl fanylion ei gwneuthuriad at Ureia yr offeiriad. 11Yna adeiladodd yr offeiriad Ureia allor, yn ôl y manylion a anfonodd y Brenin Ahas o Ddamascus, a'i gwneud yn barod erbyn i'r Brenin Ahas gyrraedd. 12Pan gyrhaeddodd y brenin o Ddamascus a gweld yr allor, aeth i fyny a nesáu ati. 13Yna llosgodd ei boethoffrwm a'i fwydoffrwm, a thywallt ei ddiodoffrwm a lluchio gwaed ei heddoffrymau yn erbyn yr allor. 14Symudodd yr allor bres a arferai fod gerbron yr ARGLWYDD ym mlaen y tŷ, a'i gosod rhwng yr allor newydd a thŷ'r ARGLWYDD, ar ochr ogleddol yr allor honno. 15A gorchmynnodd y Brenin Ahas i'r offeiriad Ureia, “Ar yr allor fawr yr wyt i losgi'r poethoffrwm boreol a'r bwydoffrwm hwyrol, a hefyd poethoffrwm a bwydoffrwm y brenin, a phoethoffrwm holl bobl y wlad ynghyd â'u bwydoffrwm a'u diodoffrymau. Ac yn ei herbyn hi y lluchi holl waed y poethoffrymau a'r aberthau. Ond ar fy nghyfer i y bydd yr allor bres i ymofyn wrthi.” 16Gwnaeth yr offeiriad Ureia yn union fel y gorchmynnodd y Brenin Ahas.
17Tynnodd y Brenin Ahas fframiau'r trolïau a gwneud i ffwrdd â'u carfanau a'r noe; hefyd dymchwelodd y môr oddi ar gefn yr ychen pres a fu dano, a'i osod ar sylfaen o gerrig. 18Hefyd, o achos brenin Asyria, cymerodd o dŷ yr ARGLWYDD lidiart y Saboth a adeiladwyd yn y deml wrth fynedfa allanol y brenin#16:18 Ystyr yn ansicr.. 19Am weddill hanes Ahas, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? 20Bu farw Ahas, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a theyrnasodd ei fab Heseceia yn ei le.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda