Pan welodd Athaleia, mam Ahaseia, fod ei mab wedi marw, aeth ati i ddifodi'r holl linach frenhinol. Ond cymerwyd Joas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y Brenin Joram a chwaer Ahaseia, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd. Rhoed ef a'i famaeth mewn ystafell wely, a'i guddio rhag Athaleia, ac ni laddwyd ef. A bu ynghudd gyda hi yn nhŷ'r ARGLWYDD am chwe blynedd, tra oedd Athaleia'n rheoli'r wlad.
Darllen 2 Brenhinoedd 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Brenhinoedd 11:1-3
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos