Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 1:7-17

2 Brenhinoedd 1:7-17 BCND

Gofynnodd y brenin, “Sut un oedd y dyn a ddaeth i'ch cyfarfod a dweud hyn wrthych?” Atebodd y dynion, “Dyn blewog, a gwregys o groen am ei ganol.” Ac meddai yntau, “Elias y Thesbiad oedd.” Yna anfonodd gapten hanner cant gyda'i ddynion at Elias, a daeth o hyd iddo yn eistedd ar ben bryncyn. Dywedodd wrtho, “Ti ŵr Duw, y mae'r brenin yn gorchymyn iti ddod i lawr.” Atebodd Elias y capten, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.” A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Anfonodd y brenin gapten hanner cant arall gyda'i ddynion; a daeth yntau a dweud, “Gŵr Duw, dyma a ddywed y brenin: Tyrd i lawr ar unwaith.” Atebodd Elias, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.” A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Yna anfonwyd trydydd capten hanner cant gyda'i ddynion. Pan ddaeth y trydydd capten i fyny ato, fe syrthiodd ar ei liniau o flaen Elias a chrefu arno, “O ŵr Duw, gad i'm bywyd i, a bywyd yr hanner cant yma o'th weision, fod yn werthfawr yn d'olwg. Y mae tân wedi disgyn o'r nef a difa'r ddau gapten cyntaf a'u dynion, ond yn awr gad i'm bywyd fod yn werthfawr yn d'olwg.” Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias, “Dos i lawr gydag ef; paid â'i ofni.” Yna aeth i lawr gydag ef at y brenin a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am iti anfon negeswyr i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn am ei air?), ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.” A marw a wnaeth, yn unol â gair yr ARGLWYDD, a lefarodd Elias. Am nad oedd ganddo fab, daeth Jehoram yn frenin yn ei le, yn ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda.