2 Cronicl 5
5
1Wedi i Solomon orffen yr holl waith a wnaeth yn nhŷ'r ARGLWYDD, dygodd y pethau yr oedd ei dad Dafydd wedi eu cysegru, yr arian a'r aur a'r holl offer, a'u gosod yn nhrysordai tŷ Dduw.
Cyrchu Arch y Cyfamod i'r Deml
1 Bren. 8:1–11
2Yna cynullodd Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel i Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion. 3Daeth holl wŷr Israel ynghyd at y brenin ar yr ŵyl yn y seithfed mis. 4Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd y Lefiaid yr arch, 5a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yr arch a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell. 6Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ymgynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif. 7Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghafell y tŷ, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid. 8Yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion. 9Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o flaen y gafell, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn. 10Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod â'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft. Yna daeth yr offeiriaid allan o'r cysegr. 11Yr oedd pob offeiriad oedd yn bresennol, i ba ddosbarth bynnag y perthynai, wedi ei gysegru ei hun. 12Yr oedd yr holl Lefiaid, sef y cantorion oedd yn perthyn i Asaff, Heman a Jeduthun, a'u meibion a'u brodyr, wedi eu gwisgo mewn lliain main ac yn sefyll i'r dwyrain o'r allor gyda symbalau, nablau a thelynau; ac yr oedd cant ac ugain o offeiriaid yn canu trwmpedau wrth eu hymyl. 13Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion yn uno mewn mawl a chlod i'r ARGLWYDD ac yn seinio trwmpedau, symbalau ac offer cerdd er moliant iddo, gan ddweud, “Yn wir da yw, ac y mae ei gariad hyd byth”, llanwyd tŷ'r ARGLWYDD gan gwmwl. 14Felly ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl; yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tŷ Dduw.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 5: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004