Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 31

31
Diwygiadau Heseceia
1Pan ddaeth hyn i ben, aeth yr holl Israeliaid oedd yn bresennol allan i ddinasoedd Jwda i ddryllio'r colofnau, torri'r prennau Asera, a distrywio'r uchelfeydd a'r allorau trwy holl Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse. Ar ôl eu difa'n llwyr dychwelodd yr holl Israeliaid i'w dinasoedd, pob un i'w gartref ei hun.
2Trefnodd Heseceia yr offeiriaid a'r Lefiaid yn ddosbarthiadau ar gyfer eu gwasanaeth; yr oedd pob offeiriad a Lefiad yn gyfrifol am y poethoffrwm a'r heddoffrymau, ac yr oeddent i weini a rhoi diolch a moliannu ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD. 3Cyfrannodd y brenin o'i olud ei hun tuag at y poethoffrymau, sef at boethoffrymau'r bore a'r hwyr a phoethoffrymau'r Sabothau, y newydd-loerau a'r gwyliau penodedig, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD. 4Gorchmynnodd i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem roi i'r offeiriaid a'r Lefiaid eu cyfran, er mwyn iddynt gadw cyfraith yr ARGLWYDD yn well. 5Pan gyhoeddwyd hyn, daeth yr Israeliaid â llawer o flaenffrwyth ŷd, gwin, olew, mêl a holl gnwd y maes; daethant â degwm llawn o bopeth. 6Daeth pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn ninasoedd Jwda â degwm o wartheg a defaid, ac o'r pethau cysegredig a gysegrwyd i'r ARGLWYDD eu Duw, a'u gosod yn bentyrrau. 7Dechreusant godi'r pentyrrau yn y trydydd mis, a'u gorffen yn y seithfed mis. 8Pan ddaeth Heseceia a'i swyddogion a gweld y pentyrrau, bendithiasant yr ARGLWYDD a'i bobl Israel. 9Pan ofynnodd Heseceia i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglŷn â'r pentyrrau, 10dywedodd Asareia yr archoffeiriad o dŷ Sadoc wrtho, “Er pan ddechreuodd y bobl ddod â chyfraniadau i dŷ'r ARGLWYDD, bwytasom a chawsom ein digoni, ac y mae llawer yn weddill, oherwydd bendithiodd yr ARGLWYDD ei bobl; dyna pam y mae cymaint ar ôl fel hyn.”
11Gorchmynnodd Heseceia baratoi ystordai yn nhŷ'r ARGLWYDD; gwnaethant felly, 12a daeth y bobl â'r blaenffrwyth, y degwm a'r pethau cysegredig i mewn yn ffyddlon. Y pennaeth oedd Conaneia y Lefiad, a'i frawd Simei oedd y nesaf ato. 13Yn ôl gorchymyn y Brenin Heseceia ac Asareia pennaeth tŷ Dduw, yr oedd Conaneia a'i frawd Simei yn cael eu cynorthwyo gan oruchwylwyr, sef Jehiel, Ahaseia, Nahath, Asahel, Jerimoth, Josabad, Eliel, Ismachëa, Mahath a Benaia. 14Core fab Imna y Lefiad, y porthor wrth borth y dwyrain, oedd yn gofalu am yr offrymau gwirfoddol i Dduw, ac yn dosbarthu'r cyfraniadau a wnaed i'r ARGLWYDD a'r offrymau mwyaf sanctaidd. 15Yr oedd Eden, Miniamin, Jesua, Semaia, Amareia a Sechaneia yn ei gynorthwyo yn ninasoedd yr offeiriaid i rannu'n deg i'w brodyr, yn fach a mawr, fesul dosbarth. 16Yn ychwanegol, rhoddwyd ar y rhestr bob gwryw tair oed a throsodd a oedd yn dod yn ei dro i dŷ'r ARGLWYDD i wasanaethu trwy gadw dyletswyddau yn ôl eu dosbarthiadau. 17Rhoddwyd ar y rhestr hefyd yr offeiriaid, yn ôl eu teuluoedd, a'r Lefiaid oedd yn ugain oed a throsodd, yn ôl eu dyletswyddau a'u dosbarthiadau. 18Rhoddwyd hwy ar y rhestr gyda'u holl blant, gwragedd, meibion a merched, y cwmni i gyd, am iddynt ymgysegru'n ffyddlon. 19Ar gyfer meibion Aaron, yr offeiriaid, a oedd yn byw yng nghytir eu dinasoedd, penodwyd dynion ym mhob dinas i roi cyfraniadau i bob gwryw yn eu plith ac i bob un o'r Lefiaid oedd ar y rhestr.
20Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr ARGLWYDD ei Dduw. 21Pa beth bynnag a wnâi i geisio ei Dduw yng ngwasanaeth tŷ Dduw, yn ôl gofynion y gyfraith a'r gorchmynion, fe'i gwnâi â'i holl galon, a llwyddo.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 31: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda