Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 28

28
Ahas Brenin Jwda
2 Bren. 16:1–4
1Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd, 2ond dilynodd esiampl brenhinoedd Israel. Gwnaeth ddelwau i'r Baalim, 3arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac fe barodd i'w feibion fynd trwy dân yn ôl arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid. 4Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd, ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.
Rhyfel yn erbyn Syria ac Israel
2 Bren. 16:5
5Am hynny rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw ef yn llaw brenin Syria; gorchfygodd yntau ef a chaethgludo llawer iawn o'i bobl a mynd â hwy i Ddamascus. Rhoddwyd ef hefyd yn llaw brenin Israel, a gorchfygwyd ef ganddo mewn lladdfa fawr. 6Yn wir, lladdodd Pecach fab Remaleia chwe ugain mil o wŷr grymus yn Jwda mewn un diwrnod, am iddynt gefnu ar ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid. 7Lladdwyd Maaseia mab y brenin, Asricam llywodraethwr y palas, ac Elcana y nesaf at y brenin, gan Sichri, un o wroniaid Effraim. 8Caethgludodd yr Israeliaid ddau gan mil o'u pobl, yn wragedd, meibion a merched, a chymryd llawer iawn o ysbail oddi arnynt a'i gludo i Samaria.
Y Proffwyd Oded
9Ond yr oedd yno broffwyd yr ARGLWYDD o'r enw Oded; aeth ef allan i gyfarfod â'r fyddin oedd yn dychwelyd i Samaria, a dweud wrthynt, “Gwrandewch! Am fod ARGLWYDD Dduw eich tadau yn ddig wrth Jwda y rhoddodd hwy yn eich llaw; ond yr ydych chwi wedi eu lladd mewn cynddaredd sy'n ymestyn hyd y nefoedd. 10Eich bwriad yn awr yw gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn weision a morynion i chwi. Onid ydych chwithau hefyd yn troseddu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw? 11Yn awr gwrandewch arnaf fi. Anfonwch adref eich brodyr a gaethgludwyd gennych, oherwydd y mae llid tanbaid yr ARGLWYDD yn eich erbyn.” 12Yna daeth rhai o benaethiaid pobl Effraim allan, sef Asareia fab Johanan, Berecheia fab Mesilemoth, Jehisceia fab Salum ac Amasa fab Hadlai, a gwrthwynebu y rhai oedd yn dod o'r frwydr. 13Dywedasant wrthynt, “Ni chewch ddod â'r caethgludion yma, oherwydd byddai'r hyn y bwriadwch chwi ei wneud yn ein harwain i droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn ychwanegu at ein pechodau a'n troseddau. Y mae ein trosedd eisoes yn fawr ac y mae llid tanbaid yn erbyn Israel.” 14Felly gadawodd y milwyr y caethgludion a'r ysbail o flaen y swyddogion a'r holl gynulliad. 15Aeth y gwŷr a enwyd eisoes i ofalu am y caethgludion: rhoesant ddillad ac esgidiau o'r ysbail i bawb oedd heb ddim, gofalu bod ganddynt fwyd a diod, rhoi ennaint iddynt, rhoi pob un oedd yn llesg ar asynnod a'u hanfon at eu brodyr i Jericho, dinas y palmwydd; ac yna dychwelyd i Samaria.
Ahas yn Gofyn am Gymorth Asyria
2 Bren. 16:7–9
16Yr adeg honno anfonodd y Brenin Ahas neges at frenin#28:16 Felly Groeg. Hebraeg, frenhinoedd. Asyria i ofyn am gymorth. 17Yr oedd yr Edomiaid wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd caethgludion; 18yr oedd y Philistiaid hefyd wedi anrheithio dinasoedd y Seffela a de Jwda a chymryd Beth-semes, Ajalon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'u pentrefi, ac wedi mynd i fyw ynddynt. 19Yr oedd yr ARGLWYDD wedi darostwng Jwda o achos Ahas brenin Israel am iddo golli pob rheolaeth yn Jwda a throseddu'n enbyd yn erbyn yr ARGLWYDD. 20Daeth Tiglath-pileser#28:20 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, Tilgath-pilneser. brenin Asyria ato, ond yn lle ei gynorthwyo fe wasgodd arno. 21Er i Ahas ysbeilio trysor tŷ'r ARGLWYDD, palas y brenin a thai'r swyddogion, a'i roi i frenin Asyria, ni fu hynny o gymorth iddo.
Pechodau Ahas
22Fel yr âi'n gyfyng arno, troseddai'r Brenin Ahas fwyfwy yn erbyn yr ARGLWYDD. 23Aberthodd i dduwiau Damascus a oedd wedi ei orchfygu, a dweud, “Am fod duwiau brenhinoedd y Syriaid wedi eu cynorthwyo hwy, fe aberthaf fi iddynt er mwyn iddynt fy nghynorthwyo innau.” Ond buont yn dramgwydd iddo ef ac i holl Israel. 24Casglodd Ahas lestri tŷ Dduw a'u malu'n chwilfriw; caeodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD a gwneud allorau iddo'i hun ym mhob congl o Jerwsalem. 25Gwnaeth uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr ym mhob un o ddinasoedd Jwda, ac fe gythruddodd ARGLWYDD Dduw ei dadau. 26Am weddill ei hanes, a'i holl arferion o'r dechrau i'r diwedd, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel. 27Bu farw Ahas, a chladdwyd ef yn ninas Jerwsalem, ond ni roesant ef ym mynwent brenhinoedd Israel; yna teyrnasodd ei fab Heseceia yn ei le.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 28: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda