Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 19

19
Proffwyd yn Ceryddu Jehosaffat
1Dychwelodd Jehosaffat brenin Jwda yn ddiogel i'w dŷ yn Jerwsalem. 2A daeth Jehu fab Hanani y gweledydd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “A wyt ti'n ymhyfrydu mewn cynorthwyo'r annuwiol a'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD? Daw llid arnat am hyn. 3Eto, y mae daioni ynot, oherwydd fe dynnaist ymaith ddelwau Asera o'r wlad, a rhoddaist dy fryd ar geisio Duw.”
Diwygiadau Jehosaffat
4Yr oedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond yn dal i fynd allan ymysg y bobl o Beerseba hyd fynydd-dir Effraim, a dod â hwy'n ôl at ARGLWYDD Dduw eu tadau. 5Gosododd farnwyr ar y wlad, un ymhob un o ddinasoedd caerog Jwda, 6a dweud wrthynt, “Gofalwch sut yr ydych yn ymddwyn, oherwydd nid yn enw neb meidrol ond yn enw'r ARGLWYDD yr ydych yn barnu, a bydd ef gyda chwi pan farnwch. 7Yn awr, bydded arnoch ofn yr ARGLWYDD, a gweithredwch yn ofalus, oherwydd nid oes anghyfiawnder na ffafriaeth na llwgrwobr yn perthyn i'r ARGLWYDD ein Duw.” 8Hefyd, fe osododd Jehosaffat yn Jerwsalem rai o'r Lefiaid a'r offeiriaid, a phennau-teuluoedd yr Israeliaid, i weinyddu cyfraith yr ARGLWYDD ac i dorri dadleuon trigolion#19:8 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, a ddychwelsant i. Jerwsalem. 9Dyma ei orchymyn iddynt: “Yr ydych i weithredu'n ffyddlon a didwyll yn ofn yr ARGLWYDD. 10Ym mhob achos a ddaw o'ch blaen oddi wrth eich cymrodyr sy'n byw yn eu dinasoedd, p'run ai achosion o dywallt gwaed neu unrhyw achos arall o gyfraith, gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwy i beidio â throseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, neu fe ddaw ei lid arnoch chwi a'ch cymrodyr. Ond ichwi wneud hyn, ni fyddwch yn troseddu. 11Amareia yr archoffeiriad fydd ag awdurdod drosoch ym mhob peth sy'n ymwneud â'r ARGLWYDD, a Sebadeia fab Ismael, llywodraethwr tŷ Jwda, ym mhob peth sy'n ymwneud â'r brenin; y Lefiaid fydd yn swyddogion i chwi. Ymwrolwch a gwnewch fel hyn; bydded yr ARGLWYDD gyda'r daionus.”

Dewis Presennol:

2 Cronicl 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd