Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 5:1-12

1 Samuel 5:1-12 BCND

Wedi i'r Philistiaid gipio arch Duw, dygwyd hi o Ebeneser i Asdod; yno dygodd y Philistiaid hi i deml Dagon, a'i gosod wrth ochr Dagon. Pan gododd yr Asdodiaid fore trannoeth, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD. Yna codasant Dagon, a'i roi'n ôl yn ei le. Bore trannoeth, wedi iddynt godi, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, a phen a dwy law Dagon ar y trothwy wedi eu torri i ffwrdd, a dim ond corff Dagon ar ôl ganddo. Dyna pam nad yw offeiriaid Dagon, na neb sy'n dod i'w deml, yn sangu ar drothwy Dagon yn Asdod hyd y dydd hwn. Bu llaw'r ARGLWYDD yn drwm ar yr Asdodiaid. Parodd arswyd ar Asdod a'i chyffiniau, a'u taro â chornwydydd. Pan welodd gwŷr Asdod mai felly'r oedd, dywedasant, “Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni, oherwydd y mae ei law yn drwm arnom ni ac ar ein duw Dagon.” Wedi iddynt anfon a chasglu atynt holl arglwyddi'r Philistiaid, gofynasant, “Beth a wnawn ag arch Duw Israel?” Atebasant hwythau, “Aed arch Duw Israel draw i Gath.” Felly aethant ag arch Duw Israel yno. Ond wedi iddynt fynd â hi yno, bu llaw'r ARGLWYDD ar y ddinas a pheri difrod mawr iawn, trawyd pobl y ddinas yn hen ac ifainc, a thorrodd y cornwydydd allan arnynt hwythau. Anfonasant arch Duw i Ecron, ond pan gyrhaeddodd yno, cwynodd pobl Ecron, “Y maent wedi dod ag arch Duw Israel atom ni i'n lladd ni a'n teuluoedd.” Felly anfonasant i gasglu ynghyd holl arglwyddi'r Philistiaid a dweud, “Anfonwch arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, rhag iddi'n lladd ni a'n teuluoedd.” Yr oedd ofn angau drwy'r holl ddinas am fod llaw Duw mor drwm yno, a hyd yn oed y rhai a arbedwyd rhag marwolaeth wedi eu taro â'r cornwydydd; ac esgynnai gwaedd y ddinas i'r entrychion.