Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 5:1-12

1 Samuel 5:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Wedi iddyn nhw gipio Arch Duw, dyma’r Philistiaid yn mynd â hi o Ebeneser i Ashdod. Aethon nhw â hi i deml eu duw Dagon, a’i gosod hi wrth ochr y ddelw o Dagon. Bore trannoeth, pan gododd pobl Ashdod, roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb o flaen Arch Duw. Felly dyma nhw yn ei godi a’i osod yn ôl yn ei le. Ond pan godon nhw’n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a’i ddwy law wedi’u torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn. (Dyna pam mae offeiriaid Dagon hyd heddiw, a phawb arall sy’n dod i deml Dagon, yn osgoi camu ar stepen drws y deml yn Ashdod.) Cosbodd yr ARGLWYDD bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a’r ardal o’i chwmpas, eu taro’n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw. Pan sylweddolodd pobl Ashdod beth oedd yn digwydd, dyma nhw’n dweud, “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros yma gyda ni. Mae e wedi’n taro ni a Dagon ein duw ni!” Felly dyma nhw’n casglu llywodraethwyr trefi’r Philistiaid at ei gilydd, a gofyn, “Be wnawn ni ag Arch Duw Israel?” A dyma nhw’n ateb, “Ei symud hi i Gath”. Felly dyma nhw’n symud yr Arch yno. Ond wedi iddi gyrraedd Gath, dyma’r ARGLWYDD yn cosbi’r dref honno hefyd. Cafodd pawb eu taro gyda chwyddau cas. Roedd hi’n banig llwyr yno! Yna dyma nhw’n anfon Arch Duw ymlaen i Ecron. Ond pan gyrhaeddodd yno dechreuodd pobl Ecron brotestio, “Maen nhw wedi gyrru Arch Duw Israel aton ni i’n lladd ni a’n teuluoedd!” Felly dyma nhw’n casglu llywodraethwyr trefi’r Philistiaid at ei gilydd eto, a dweud wrthyn nhw, “Anfonwch Arch Duw Israel yn ôl i’w lle ei hun, neu bydd e’n ein lladd ni a’n teuluoedd.” Roedd y dref gyfan mewn panig llwyr, am fod Duw yn eu taro nhw mor drwm. Os nad oedd pobl yn marw roedden nhw’n cael eu taro’n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw. Roedd pobl y dref yn galw i’r nefoedd am help.

1 Samuel 5:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi i'r Philistiaid gipio arch Duw, dygwyd hi o Ebeneser i Asdod; yno dygodd y Philistiaid hi i deml Dagon, a'i gosod wrth ochr Dagon. Pan gododd yr Asdodiaid fore trannoeth, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD. Yna codasant Dagon, a'i roi'n ôl yn ei le. Bore trannoeth, wedi iddynt godi, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, a phen a dwy law Dagon ar y trothwy wedi eu torri i ffwrdd, a dim ond corff Dagon ar ôl ganddo. Dyna pam nad yw offeiriaid Dagon, na neb sy'n dod i'w deml, yn sangu ar drothwy Dagon yn Asdod hyd y dydd hwn. Bu llaw'r ARGLWYDD yn drwm ar yr Asdodiaid. Parodd arswyd ar Asdod a'i chyffiniau, a'u taro â chornwydydd. Pan welodd gwŷr Asdod mai felly'r oedd, dywedasant, “Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni, oherwydd y mae ei law yn drwm arnom ni ac ar ein duw Dagon.” Wedi iddynt anfon a chasglu atynt holl arglwyddi'r Philistiaid, gofynasant, “Beth a wnawn ag arch Duw Israel?” Atebasant hwythau, “Aed arch Duw Israel draw i Gath.” Felly aethant ag arch Duw Israel yno. Ond wedi iddynt fynd â hi yno, bu llaw'r ARGLWYDD ar y ddinas a pheri difrod mawr iawn, trawyd pobl y ddinas yn hen ac ifainc, a thorrodd y cornwydydd allan arnynt hwythau. Anfonasant arch Duw i Ecron, ond pan gyrhaeddodd yno, cwynodd pobl Ecron, “Y maent wedi dod ag arch Duw Israel atom ni i'n lladd ni a'n teuluoedd.” Felly anfonasant i gasglu ynghyd holl arglwyddi'r Philistiaid a dweud, “Anfonwch arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, rhag iddi'n lladd ni a'n teuluoedd.” Yr oedd ofn angau drwy'r holl ddinas am fod llaw Duw mor drwm yno, a hyd yn oed y rhai a arbedwyd rhag marwolaeth wedi eu taro â'r cornwydydd; ac esgynnai gwaedd y ddinas i'r entrychion.

1 Samuel 5:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r Philistiaid a gymerasant arch DUW, ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod. A’r Philistiaid a gymerasant arch DUW, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon. A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le. Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef. Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn. A thrwm fu llaw yr ARGLWYDD ar yr Asdodiaid; ac efe a’u distrywiodd hwynt, ac a’u trawodd hwynt, sef Asdod a’i therfynau, â chlwyf y marchogion. A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd, dywedasant, Ni chaiff arch DUW Israel aros gyda ni: canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Dagon ein duw. Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt; ac a ddywedasant, Beth a wnawn ni i arch DUW Israel? A hwy a atebasant, Dyger arch DUW Israel o amgylch i Gath. A hwy a ddygasant arch DUW Israel oddi amgylch yno. Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr ARGLWYDD yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd. Am hynny yr anfonasant hwy arch DUW i Ecron. A phan ddaeth arch DUW i Ecron, yr Ecroniaid a waeddasant, gan ddywedyd, Dygasant atom ni o amgylch arch DUW Israel, i’n lladd ni a’n pobl. Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch DUW Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a’n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas; trom iawn oedd llaw DUW yno. A’r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd.