Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Samuel 11

11
Saul yn Gorchfygu'r Ammoniaid
1Ymhen tua mis aeth#11:1 Felly Groeg. Hebraeg, Ond cymerodd arno beidio â chlywed, ac aeth. Nahas yr Ammoniad i fyny a gwersyllu yn erbyn Jabes-gilead. Dywedodd holl wŷr Jabes wrth Nahas, “Gwna gytundeb â ni, ac fe'th wasanaethwn.” 2Atebodd Nahas yr Ammoniad, “Ar un amod y gwnaf gytundeb â chwi—bod tynnu llygad de pob un ohonoch; a gosodaf hyn yn sarhad ar Israel gyfan.” 3Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, “Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat.”
4Daeth y negeswyr at Gibea Saul ac adrodd am hyn yng nghlyw'r bobl, a chododd pawb ei lais ac wylo. 5Yna daeth Saul o'r maes yn dilyn ei wedd o ychen a gofynnodd, “Beth sydd ar y bobl, yn wylo?” A mynegwyd wrtho helyntion gwŷr Jabes. 6Pan glywodd y pethau hyn, disgynnodd ysbryd Duw ar Saul, a ffromodd yn enbyd. 7Cymerodd yr ychen a'u darnio a'u hanfon drwy holl derfynau Israel yn llaw y negeswyr gyda'r neges, “Pwy bynnag na ddaw allan ar ôl Saul a Samuel, dyma a wneir i'w ychen.” Syrthiodd ofn oddi wrth yr ARGLWYDD ar y genedl, a daethant allan fel un. 8Rhifwyd hwy yn Besec, ac yr oedd tri chan mil o Israeliaid a deng mil ar hugain o Jwdeaid. 9A dywedwyd wrth y negeswyr a ddaeth o Jabes, “Dywedwch wrth bobl Jabes-gilead, ‘Erbyn canol dydd yfory cewch waredigaeth.’ ” Pan gyrhaeddodd y negeswyr a dweud wrth bobl Jabes, bu llawenydd. 10A dywedodd gwŷr Jabes wrth Nahas, “Yfory down allan atoch a chewch wneud a fynnoch â ni.” 11Trannoeth, rhannodd Saul y bobl yn dair mintai, a daethant i ganol y gwersyll yn ystod y wyliadwriaeth fore a tharo'r Ammoniaid hyd ganol dydd; chwalwyd y gweddill oedd ar ôl, fel nad oedd dau ohonynt gyda'i gilydd.
12Yna dywedodd y bobl wrth Samuel, “Pwy oedd yn dweud, ‘A gaiff Saul deyrnasu trosom?’? Dygwch y dynion, a rhown hwy i farwolaeth.” 13Ond dywedodd Saul, “Ni roddir neb i farwolaeth ar y dydd hwn, a'r ARGLWYDD wedi ennill y fath fuddugoliaeth heddiw yn Israel.” 14Dywedodd Samuel wrth y bobl, “Dewch, awn i Gilgal ac adnewyddu'r frenhiniaeth yno.” 15Felly aeth y bobl i gyd i Gilgal, a gwneud Saul yn frenin yno yn Gilgal yng ngŵydd yr ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau yno o flaen yr ARGLWYDD. A bu Saul a holl wŷr Israel yn llawen iawn yno.

Dewis Presennol:

1 Samuel 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda