1 Brenhinoedd 4
4
Gweinidogion Solomon
1Yr oedd Solomon yn frenin ar holl Israel. 2Dyma weinidogion y goron: Asareia fab Sadoc yn offeiriad; 3Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, yn ysgrifenyddion; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur; 4Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin; Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid; 5Asareia fab Nathan yn bennaeth y rhaglawiaid; Sabud fab Nathan, yr offeiriad, yn gyfaill y brenin; 6Ahisar yn arolygwr y tŷ; Adoniram fab Abda yn swyddog llafur gorfod.
7Yr oedd gan Solomon ddeuddeg rhaglaw yn holl Israel yn gofalu am ymborth y brenin a'i dŷ; am fis yn y flwyddyn y gofalai pob un am yr ymborth. 8Dyma'u henwau: Ben-hur yn ucheldir Effraim; 9Ben-decar yn Macas a Saalbim a Beth-semes ac Elon-beth-hanan; 10Ben-hesed yn Aruboth (ganddo ef yr oedd Socho a holl diriogaeth Heffer); 11Ben-abinadab yn holl Naffath-dor (Taffath, merch Solomon, oedd ei wraig); 12Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam; 13Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan—trigain o ddinasoedd mawr â chaerau a barrau pres); 14Ahinadab fab Ido yn Mahanaim; 15Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig); 16Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth; 17Jehosaffat fab Parus yn Issachar; 18Simei fab Ela yn Benjamin; 19Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.
Teyrnasiad Llwyddiannus Solomon
20Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus â'r tywod ar lan y môr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.
21 # 4:21–34 Hebraeg, 5:1–14. Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.
22Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd; 23deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen o'r borfa, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, gafrewigod, ewigod, a dofednod breision. 24Yr oedd yn llywodraethu'n frenin dros y gwledydd i'r gorllewin o'r Ewffrates, o Tiffsa hyd Gasa, dros yr holl frenhinoedd i'r gorllewin o'r afon. 25Cafodd heddwch ar bob tu, ac yr oedd Jwda ac Israel yn trigo'n ddiogel, holl ddyddiau Solomon, pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, o Dan hyd Beerseba.
26Yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau ar gyfer ei geffylau-cerbyd, a deuddeng mil o feirch.
27Gofalai'r rhaglawiaid hynny, pob un yn ei fis, am ymborth ar gyfer y Brenin Solomon a phawb a ddôi at ei fwrdd; nid oedd dim yn eisiau. 28Dygent hefyd haidd a gwellt i'r ceffylau a'r meirch cyflym, i'r man lle'r oedd i fod, pob un yn ôl a ddisgwylid ganddo.
29Rhoddodd Duw i Solomon ddoethineb a deall helaeth, ac amgyffrediad mor eang â thraeth y môr. 30Rhagorodd doethineb Solomon ar ddoethineb holl bobl y Dwyrain a'r Aifft; 31yr oedd yn ddoethach nag unrhyw un, hyd yn oed Ethan yr Esrahiad, neu Heman, Calcol a Darda, meibion Mahol; yr oedd ei fri wedi ymledu trwy'r holl genhedloedd oddi amgylch.
32Llefarodd dair mil o ddiarhebion, ac yr oedd ei ganeuon yn rhifo mil a phump. 33Traethodd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Lebanon hyd yr isop sy'n tyfu o'r pared; hefyd am anifeiliaid ac ehediaid, am ymlusgiaid a physgod. 34Daethant o bob cenedl i wrando doethineb Solomon, ac o blith holl frenhinoedd y ddaear a glywodd am ei ddoethineb.
Dewis Presennol:
1 Brenhinoedd 4: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004