Pan welodd Ahab ef, dywedodd wrtho, “Ai ti sydd yna, gythryblwr Israel?” Atebodd yntau, “Nid myfi sydd wedi cythryblu Israel, ond tydi a'th deulu, drwy wrthod gorchmynion yr ARGLWYDD a dilyn y Baalim. Anfon yn awr a chasgla ataf holl Israel i Fynydd Carmel, a hefyd y pedwar cant a hanner o broffwydi Baal a'r pedwar cant o broffwydi Asera y mae Jesebel yn eu cynnal.” Anfonodd Ahab at yr holl Israeliaid, a chasglu'r proffwydi i Fynydd Carmel.
Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo. Yna meddai Elias wrth y bobl, “Myfi fy hunan a adawyd yn broffwyd i'r ARGLWYDD, tra mae proffwydi Baal yn bedwar cant a hanner. Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tân dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tân dano. Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy dân fydd Dduw.” Atebodd yr holl bobl, “Cynllun da!” Dywedodd Elias wrth broffwydi Baal, “Dewiswch chwi un bustach a'i baratoi'n gyntaf, gan eich bod yn niferus, a galwch ar eich duw, ond peidio â rhoi tân.” Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, “Baal, ateb ni!” Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor. Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, “Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro.” Galwasant yn uwch, a'u hanafu eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll a phicellau nes i'r gwaed lifo arnynt. Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.
Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio; a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”). Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had. Trefnodd y coed, a darnio'r bustach a'i osod ar y coed, ac yna meddai, “Llanwch bedwar llestr â dŵr, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed.” Yna dywedodd, “Gwnewch eilwaith”; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, “Gwnewch y drydedd waith”; a gwnaethant y trydydd tro, nes bod y dŵr yn llifo o amgylch yr allor ac yn llenwi'r ffos. Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd. Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.” Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos. Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!” Yna dywedodd Elias wrthynt, “Daliwch broffwydi Baal; peidiwch â gadael i'r un ohonynt ddianc.” Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias â hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno.
Dywedodd Elias wrth Ahab, “Dos yn ôl, cymer fwyd a diod, oherwydd y mae sŵn glaw.” Felly aeth Ahab yn ei ôl i fwyta ac yfed, ond aeth Elias i fyny i ben Carmel, a gwargrymu ar y ddaear nes bod ei wyneb rhwng ei liniau. Yna dywedodd wrth ei lanc, “Dos di i fyny ac edrych tua'r môr.” Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, “Nid oes dim i'w weld.” A saith waith y dywedodd wrtho, “Dos eto.” A'r seithfed tro dywedodd y llanc, “Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r môr.” Yna dywedodd Elias wrtho, “Dos, dywed wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.’ ” Ar fyr dro duodd yr awyr gan gymylau a gwynt, a bu glaw trwm; ond yr oedd Ahab wedi gyrru yn ei gerbyd a chyrraedd Jesreel. Daeth llaw yr ARGLWYDD ar Elias, tynhaodd yntau rwymyn am ei lwynau, a rhedodd o flaen Ahab hyd at y fynedfa i Jesreel.