Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda daeth Simri'n frenin am saith diwrnod yn Tirsa. Yr oedd y bobl yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon, a oedd ym meddiant y Philistiaid; a phan glywsant fod Simri wedi cynllwyn a lladd y brenin, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll gwnaeth holl Israel Omri, capten y llu, yn frenin ar Israel. Yna aeth Omri i fyny o Gibbethon, a holl Israel gydag ef, a gwarchae ar Tirsa. A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei chipio, aeth i gaer tŷ'r brenin a llosgi tŷ'r brenin am ei ben, a bu farw. Digwyddodd hyn oherwydd y pechodau a gyflawnodd drwy wneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD a dilyn llwybr Jeroboam, a'r pechod a wnaeth ef i beri i Israel bechu. Ac onid yw gweddill hanes Simri a'i gynllwyn wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
Darllen 1 Brenhinoedd 16
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Brenhinoedd 16:15-20
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos