Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 13

13
Condemnio'r Addoliad ym Methel
1Tra oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor i offrymu, daeth gŵr Duw o Jwda i Fethel yn ôl gair yr ARGLWYDD. 2A chyhoeddodd yn erbyn yr allor drwy air yr ARGLWYDD: “Allor, allor, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele, fe enir mab i linach Dafydd o'r enw Joseia; bydd ef yn aberthu arnat offeiriaid yr uchelfeydd sy'n offrymu arnat, a llosgir arnat esgyrn dynol.’ ” 3A rhoddodd argoel y dydd hwnnw, a dweud, “Dyma'r argoel a addawodd yr ARGLWYDD: bydd yr allor yn ddrylliau, a chwelir y lludw sydd arni.”
4Pan glywodd y Brenin Jeroboam y gair a gyhoeddodd gŵr Duw yn erbyn yr allor ym Methel, estynnodd ei law dros yr allor a dweud, “Cydiwch ynddo!” Ond gwywodd y llaw a estynnodd ato, ac ni fedrai ei thynnu'n ôl. 5Yna drylliwyd yr allor a chwalwyd y lludw o'r allor, yn unol â'r argoel a roddodd gŵr Duw drwy air yr ARGLWYDD. 6Yna dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, “Ymbil â'r ARGLWYDD dy Dduw a gweddïa ar fy rhan fel y caiff fy llaw ei hadfer.” Ymbiliodd gŵr Duw ar yr ARGLWYDD, ac adferwyd llaw'r brenin iddo fel yr oedd cynt. 7A dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, “Tyrd adref gyda mi am damaid, imi roi rhodd iti.” 8Ond dywedodd y proffwyd wrth y brenin, “Petait yn rhoi imi hanner dy dŷ, ni ddown gyda thi; nid wyf am fwyta tamaid nac yfed llymaid yn y lle hwn. 9Fel hyn y gorchmynnwyd imi drwy air yr ARGLWYDD, i beidio â bwyta nac yfed dim, na dychwelyd y ffordd y deuthum.” 10Ac aeth ffordd arall, heb ddychwelyd ar y ffordd y daeth i Fethel.
Proffwyd Oedrannus Bethel
11Yr oedd proffwyd oedrannus yn byw ym Methel, a daeth ei feibion a dweud wrtho am y cwbl a wnaeth gŵr Duw y dydd hwnnw ym Methel, ac adrodd wrth eu tad yr hyn a ddywedodd wrth y brenin. 12Holodd eu tad hwy, “Pa ffordd yr aeth?” A dangosodd ei feibion y ffordd yr aeth gŵr Duw oedd wedi dod o Jwda. 13Dywedodd yntau wrth ei feibion, “Cyfrwywch asyn imi.” Ac wedi iddynt gyfrwyo'r asyn, marchogodd arno 14a mynd ar ôl gŵr Duw, a'i gael yn eistedd tan dderwen. Gofynnodd iddo, “Ai ti yw'r gŵr Duw a ddaeth o Jwda?” Ac atebodd yntau, “Ie.” 15Yna dywedodd y proffwyd oedrannus, “Tyrd adref gyda mi am bryd o fwyd.” 16Atebodd y llall, “Ni fedraf ddychwelyd gyda thi, na bwyta nac yfed dim gyda thi yn y lle hwn. 17Dyma'r neges a gefais drwy air yr ARGLWYDD: ‘Paid â bwyta bara nac yfed dim yno, na dychwelyd y ffordd yr aethost.’ ” 18Ond dywedodd y proffwyd oedrannus wrtho, “Yr wyf finnau'n broffwyd fel ti, ac y mae angel wedi dweud wrthyf drwy air yr ARGLWYDD, ‘Dos ag ef yn ôl gyda thi adref i fwyta bara ac yfed dŵr.’ ” Ond dweud celwydd wrtho yr oedd. 19Aeth yntau'n ôl gydag ef, a bwyta ac yfed yn ei gartref.
20Tra oeddent yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a'i dygodd yn ôl, 21a chyhoeddodd wrth ŵr Duw a ddaeth o Jwda, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am iti wrthod yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD, a pheidio â chadw gorchymyn yr ARGLWYDD dy Dduw, 22ond yn hytrach dychwelyd a bwyta ac yfed yn y lle y dywedodd ef wrthyt am beidio â bwyta nac yfed, am hynny ni ddaw dy gorff i fedd dy hynafiaid.’ ”
23Ac wedi iddo orffen bwyta ac yfed, cyfrwywyd iddo asyn o eiddo'r proffwyd a'i dygodd yn ôl. 24Fel yr oedd yn mynd ar hyd y ffordd, daeth llew i'w gyfarfod a'i ladd; gadawyd ei gorff i orwedd ar y ffordd, gyda'r asyn a'r llew yn sefyll yn ei ymyl. 25Digwyddodd rhywrai ddod heibio a gweld y corff ar y ffordd, gyda'r llew yn ei ymyl, ac aethant ac adrodd yr hanes yn y dref lle'r oedd y proffwyd oedrannus yn byw. 26Pan glywodd y proffwyd a'i dygodd yn ôl o'i daith, dywedodd, “Dyna ŵr Duw a wrthododd neges yr ARGLWYDD; y mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i'r llew, a hwnnw wedi ei larpio a'i ladd yn ôl y gair a fynegodd yr ARGLWYDD.” 27A dywedodd wrth ei feibion, “Cyfrwywch asyn imi.” Wedi iddynt ei gyfrwyo, 28aeth y proffwyd, a chael y corff ar y ffordd, a'r llew a'r asyn yn sefyll yn ei ymyl. Nid oedd y llew wedi bwyta'r corff na llarpio'r asyn. 29Cododd y proffwyd y corff a'i osod ar yr asyn, a'i gludo'n ôl, a'i ddwyn i dref y proffwyd oedrannus er mwyn galaru drosto a'i gladdu. 30Ac wedi gosod y corff yn ei fedd ei hun, galarodd drosto a dweud, “O fy mrawd!” 31Ar ôl ei gladdu, dywedodd wrth ei feibion, “Pan fyddaf farw, claddwch fi yn y bedd lle mae gŵr Duw wedi ei gladdu; gosodwch fy esgyrn wrth ei esgyrn ef. 32Yn sicr fe ddigwydd yr hyn a gyhoeddodd drwy air yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor ym Methel ac yn erbyn holl adeiladau'r uchelfeydd sydd yn nhrefi Samaria.”
Drygioni Jeroboam
33Ni throdd Jeroboam oddi wrth ei ffordd ddrygionus wedi'r digwyddiad hwn. Parhaodd i wneud offeiriaid uchelfeydd o'r bobl yn ddiwahân; byddai'n urddo pwy bynnag a ddymunai yn offeiriaid uchelfeydd. 34Bu hyn yn dramgwydd i deulu Jeroboam ac yn achos eu difetha a'u difodi oddi ar wyneb y ddaear.

Dewis Presennol:

1 Brenhinoedd 13: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda