Minnau, gyfeillion, ni ellais lefaru wrthych fel wrth rai ysbrydol, ond fel wrth rai cnawdol, fel babanod yng Nghrist. Llaeth a roddais i chwi'n ymborth, ac nid bwyd solet, oherwydd nid oeddech eto'n barod. Ac nid ydych yn barod yn awr chwaith, oherwydd cnawdol ydych o hyd. Oherwydd, tra bo cenfigen a chynnen yn eich plith, onid cnawdol ydych, ac yn ymddwyn yn ôl safonau dynol? Pan yw un yn dweud, “Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul”, ac un arall, “Minnau, i blaid Apolos”, onid dynol ydych? Beth ynteu yw Apolos? Neu beth yw Paul? Dim ond gweision y daethoch chwi i gredu drwyddynt, a phob un yn cyflawni'r gorchwyl a gafodd gan yr Arglwydd. Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw oedd yn rhoi'r tyfiant. Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant. Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei dâl ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi.